Huw Irranca-Davies yn lansio Fix-it-February i annog mwy i drwsio eitemau

February 2026 | Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi lansio Fix-it-February mewn caffi trwsio dros dro yng Nghaerdydd. Mae’r ymgyrch yn cael ei redeg gan Gaffi Trwsio Cymru sy’n rhedeg rhwydwaith o leoliadau lle mae modd i bobl fynd a’u nwyddau i gael eu trwsio yn rhad ac am ddim. Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru mae’r caffis hyn wedi arbed dros filiwn cilogram o allyriadau carbon deuocsid.

Derbyniodd Caffi Trwsio Cymru, sy’n elusen, nawdd o £14 miliwn o bunnoedd drwy’r Gronfa Economi Gylchol, ac mae bellach dros 130 o gaffis trwsio ar hyd y wlad, lle gwelir gwirfoddolwyr yn helpu i drwsio nwyddau’r cyhoedd.

Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Mae Cymru eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu, a nawr rydyn ni’n adeiladu diwylliant lle mae trwsio ac ailddefnyddio yn dod yn ail natur. Mae arbed miliwn cilogram o garbon drwy ein rhwydwaith caffis trwsio yn garreg filltir anhygoel. Drwy drwsio yn hytrach na phrynu eitemau newydd, rydyn ni’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ac yn arbed arian. Rwy’n gofyn i bawb yng Nghymru ymuno â Fix-it-February a rhoi bywyd newydd i eitem sydd wedi torri yn rhad ac am ddim.” 

Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru:

“Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad gwirfoddolwyr a chymunedau ledled Cymru sy’n cyflawni manteision amgylcheddol a chymdeithasol gwirioneddol drwy drwsio. Mae llawer mwy i gaffis trwsio na thrwsio eitemau sydd wedi torri. Maen nhw’n helpu pobl i arbed arian, dysgu sgiliau a chysylltu â’u cymuned – wrth gymryd camau ymarferol ar newid yn yr hinsawdd. Mae Fix-it-February yn gyfle gwych i ragor o bobl gymryd rhan, boed hynny drwy ymweld â chaffi trwsio, dysgu sgiliau newydd, neu gefnogi busnes trwsio yn eu hardal leol.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Benthyg Cymru, rhwydwaith o lyfrgelloedd eitemau lle gall pobl fenthyg pethau yn hytrach na’u prynu.

I weld os oes caffi trwsio yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen hon. I ddysgu mwy am lyfrgellodd pethau, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This