Mae Gwasanaethau Heddlu Cymru wedi rhoi rhybudd i ffermwyr sicrhau fod eu heiddo yn ddiogel tra eu bod i ffwrdd yn ymweld â’r sioe yn Llanelwedd. Mae’r heddlu yn disgwyl gweld cynnydd mewn achosion o ladrata ar ffermydd yng Nghymru wrth i filoedd o ffermwyr adael adref ac ymostwng ar faes y Sioe Frenhinol am yr wythnos.
O dan faner ‘Operation Homestead Cymru’ mae Gwasanaethau Heddlu Cymru wedi wedi atgoffa troseddwyr posib y bydd yna fwy o batrolau ar hyd cefn gwlad Cymru. Dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru Rob Taylor:
‘Mae’n eglur fod troseddwyr yng nghefn gwlad yn ymwybodol o bwysigrwydd tymor y sioeau ac yn benodol y Sioe Frenhinol i ffermwyr, pan gall ffermydd gael eu gadael yn wag am sawl diwrnod. Mae troseddwyr yn cymryd mantais o hyn ac yn targedu’r ffermydd hyn ar gyfer dwyn a lladrata.’
Rhannodd sawl darn o gyngor syml i ffermwyr sicrhau eu bod yn gallu gwarchod eu hunain rhag troseddwyr:
- Gwiriwch bob un o’ch mesurau diogelwch gan sicrhau eu bod yn gweithio.
- Gwnewch yn siŵr fod pob un adeilad wedi ei gloi a bod unrhyw beirianwaith tu mewn iddynt yn ddiogel.
- Sicrhewch fod eich camerâu cylch cyfyng (CCTV) yn weithredol ac am recordio unrhyw symudiadau ar y fferm.
- Gadewch i’ch cymdogion wybod pryd yr ydych i ffwrdd a phryd y byddwch yn dychwelyd.
- Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gatiau sy’n rhoi mynediad i’r fferm wedi eu cloi, boed ar y dreif neu drwy gae. Os yn bosib trowch un o golynnau’r giât i sicrhau na all neb eu codi.
- Os yn bosib gofynnwch i rywun aros ar y fferm.
- Defnyddiwch oleuadau wedi eu hamseru o gwmpas y fferm, boed y rheini yn ddibynnol ar symudiad neu yn dilyn amserlen benodedig.
Mae modd canfod mwy o argymhellion gan Rob Taylor ar wefan y CLA.