Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid, wedi lansio Cyfres o Weithdai a Seminarau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer unrhyw un sydd mewn cymuned neu sy’n gweithio gyda chymunedau a hoffai ddefnyddio gwaith ymchwil fel cyfrwng ar gyfer gweithredu. Does dim angen unrhyw gymhwyster addysg neu sgiliau penodol i gymryd rhan.
“Mae cymunedau ar draws Cymru wledig eisoes â llawer iawn o wybodaeth a sgiliau, ac mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar y sylfaen honno – gan feithrin hyder, cynnig lle i ddysgu gan ein gilydd, ac i greu rhwydwaith o sefydliadau a all gefnogi ei gilydd trwy ddefnyddio gwaith ymchwil i sbarduno newid. Rydyn ni wedi dylunio’r gyfres i ganiatáu pobl i’w chwblhau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw, mewn ffordd sy’n gweddu i’w bywydau a’u hamserlenni prysur” – Jessie Buchanan, Cyfarwyddwr, Gyda’n Gilydd dros Newid.
I ddysgu mwy ewch i: Gyda’n Gilydd dros Newid.

