Mae Gyda’n Gilydd Dros Newid (Together for Change) wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal gweithdy ar-lein bydd yn edrych ar y cyfleoedd y mae’r economi gylchol yn ei gyflwyno i gymunedau cefn gwlad Cymru. Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 16 Hydref rhwng 11yb a 12yh dros Zoom.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd gyda CEIC (Cymunedau Arloesi Economi Gylchol) corff sydd yn cefnogi sefydliadau cyhoeddus a preifat i ddatblygu sgiliau arloesi ar gyfer yr economi gylchol ac yr economi sylfaenol. Bydd y gweithdy yn darparu enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi llwyddo i weithredu a chynnwys arferion economi gylchol yn eu gwaith. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad ac i archebu lle ar ei gyfer, dilynwch y ddolen hon.