Clywodd y Pwyllgor Materion Cymreig dystiolaeth gan banel o arbenigwyr ar effaith newidiadau ym mholisïau tai ac amgylchiadau’r farchnad ar gymunedau Cymru. Ddoe (24 Ionawr 204) fe glywodd y sesiwn o Mark Harris Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Barry Rees MBE, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion ac Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.
Yn eu tystiolaeth fe drafododd y tri’r heriau a’r prif ffactorau sy’n wynebu datblygu a darparu tai yng Nghymru. Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd polisi Llywodraeth Cymru, cyfraddau treth cyngor ar gyfer ail gartrefi, y galw am dai mewn gwahanol ardaloedd, y mathau o dai sydd eu hangen, deddfwriaeth cynllunio a sut y mae ffactorau economaidd ehangach yn effeithio ar lunio polisi. Cafwyd sylw gan rai o’r ASau oedd yn cyfweld a’r tri ar yr effeithiau yr mae’r ffactorau hyn yn eu cael ar newid demograffeg a phoblogaeth yng Nghymru, a sut yr oedd hyn yn ei dro yn effeithio ar ymdeimlad o gymuned a dyfodol ieithyddol y cymunedau hyn.
Gallwch wylio’r sesiwn yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i Parliament TV.