Bydd yr Ŵyl Syniadau Economi Llesiant Cymru cyntaf yn cael ei chynnal mis nesaf ar ddydd Llun 18 Tachwedd yn Arena Abertawe. Nod yr ŵyl yw dod a’r rheini sydd yn gweithio ym meysydd cynaladwyedd, datblygu’r economi, darpariaeth gymunedol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ynghyd er mwyn ceisio herio a newid y ffyrdd y meddylir ynghylch yr economi, ei bwrpas a’i bosibiliadau. Mae’r trefnwyr yn awyddus i amlygu camau ymarferol y gellid cymryd i drawsnewid economi Cymru yn un sy’n blaenoriaethu llesiant.
Mae amryw o gyrff cyhoeddus a sefydliadau wedi dod ynghyd i drefnu’r ŵyl gan gynnwys WE Cymru, Cwmpas, Oxfam Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 4theRegion a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Ymhlith y siaradwyr bydd Kate Raworth, awdur ‘Donut Economics’ a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r digwyddiad ar agor i bawb ac mae modd canfod mwy o wybodaeth ac archebu tocyn rhad ac am ddim drwy ddilyn y ddolen hon: https://bit.ly/WECymru2024.