Mae trefnwyr Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd wedi cyhoeddi y bydd y gwobrau yn dychwelyd yn hwyrach eleni, gydag enwebiadau bellach ar agor i fusnesau yn ardal ARFOR. Nod y gwobrau yw dathlu busnesau ‘Mwyaf Cymraeg’ yr ardal drwy wobrwyo’r busnesau rheini sydd yn hyrwyddo’r iaith boed hynny fel rhan annatod o’u gwaith dydd i ddydd, wrth arloesi wrth ddefnyddio’r Gymraeg, neu wrth weithio i gynyddu gwelededd y Gymraeg ym myd busnes.
Mae yna gategorïau ychwanegol i’r rhai a gafwyd yng ngwobrwyau 2024, y tro diwethaf iddynt gael eu cynnal, gan gynnwys gwobrau ar gyfer ‘Menter Gymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd’ a ‘Tacsis Mwyaf Cymraeg y Byd’. Bydd seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn y gwanwyn i ddathlu ymdrechion yr enillwyr.
Mae’r gwobrau yn cynnwys y categorïau canlynol:
- Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd – gwobr sy’n dathlu defnydd o’r Gymraeg ar y we.
- Ieuenctid Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr sy’n ddathliad o’r bobl ifanc rheini sydd wedi derbyn cymorth drwy raglen ARFOR.
- Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr ar gyfer y gofodau rheini lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd dydd i ddydd boed yn dafarn, caffi, siop, theatr, neu unrhyw ofod arall.
- Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr i’r busnesau rheini sy’n gwerthu nwyddau o bob math.
- Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr ar gyfer busnesau ble mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’u gwaith a’u dull gweithredu.
- Menter Gymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr ar gyfer mentrau sydd yn defnyddio’r iaith fel rhan o’u gwaith ac yn ei ddathlu hefyd.
- Tacsis Mwyaf Cymraeg y Byd — gwobr sy’n dathlu rôl allweddol tacsis i economi ARFOR wrth gysylltu busnesau a chymunedau gwledig.
Mae’r trefnwyr yn awyddus i glywed gennych chi os ydych yn rhedeg neu’n gwybod am fusnes neu fenter o fewn ardal ARFOR sy’n llwyddo drwy’r Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad at yr iaith yn y rhanbarth. Unwaith bydd y trefnwyr yn derbyn yr holl enwebiadau, bydd panel yn dewis rhestr fer ar gyfer pob categori unigol, cyn agor y gystadleuaeth i’r cyhoedd gael pleidleisio. I ddysgu mwy am y gwobrau, ac i enwebu busnes, dilynwch y ddolen hon i wefan ARFOR. Mae enwebiadau yn cau ar 30 Ionawr 2026.

