Gwobrau Caru Ceredigion yn dathlu cyfraniadau a thalent arbennig

Rhagfyr 2024 | Sylw

Yr wythnos diwethaf ar Fferm Bargoed ger Llwyncelyn, cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion am y tro cyntaf (12 Rhagfyr 2024) i ddathlu unigolion, busnesau a phrosiectau cymunedol ar draws y sir.

Trefnwyd y digwyddiad gan Cynnal y Cardi, grŵp gweithredu lleol Ceredigion, dan faner Caru Ceredigion. Bu oddeutu 130 o geisiadau ar gyfer y gwobrau, gyda 36 yn cyrraedd y rhestrau byr ar gyfer 12 gwobr. Yn cyflwyno’r noson oedd y darlledwyr Ifan Jones Evans a Nest Jenkins, ill dau yn frodorion Ceredigion. Cafodd y tlysau ar gyfer y noson eu creu’n arbennig gan fyfyrwyr o Goleg Ceredigion ar y cyd gyda’r gof Alec Page o Lanbedr Pont Steffan wnaeth greu’r brif wobr Caru Ceredigion. Yn ôl y trefnwyr roedd y noson yn llwyddiant gyda thrawstoriad eang o gynrychiolwyr o lywodraeth leol, sefydliadau a chymuned fusnes y sir yn mynychu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet i Gyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, Clive Davies:

“Mae’r gwobrau’n cadarnhau sut rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i sicrhau twf economaidd cryf a chynaliadwy i Geredigion, sy’n cael ei greu a’i rannu gan bawb.

“Pleser oedd gweld cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol ein holl enillwyr, a’r rheini ar y rhestr fer. Rwy’n gwybod bod safon yr enwebiadau wedi creu argraff fawr ar ein beirniaid a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn ystod y noson.

“Roedd y noson yn ddathliad o’r gwaith eithriadol sy’n digwydd mewn busnesau a chymunedau ar draws Ceredigion, ac sy’n helpu datblygu cymdeithas uchelgeisiol, wydn ac unigryw lle gall cenedlaethau weld dyfodol clir iddyn nhw eu hunain.”

“Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad am ei wneud yn ddathliad cofiadwy o lwyddiannau ein cymuned.”

Ymhlith yr enillwyr a’r rheini a enwebwyd oedd nifer o brosiectau sydd wedi derbyn nawdd neu gefnogaeth drwy raglen ARFOR mewn gwahanol ffyrdd, megis ArloesiAber, Delineate a Llaeth Teulu Jenkins. Enillydd Gwobr ARFOR oedd ArloesiAber, prosiect sydd yn ceisio bod yn gatalydd wrth ddatblygu ymchwil yn y biowyddorau i greu twf economaidd a buddsoddiad.

Enillydd prif wobr y noson Gwobr Caru Ceredigion oedd y cigydd Sion Jones, am ei waith diflino yn hyrwyddo a gwerthu cynnyrch lleol o’r safon uchaf sy’n blaenoriaethu gwasanaeth da a chynaladwyedd.

Mae cynlluniau yn barod ar y gweill i gynnal noson wobrau arall y flwyddyn nesaf. I ddysgu mwy am waith Cynnal y Cardi ac am newyddion pellach yn y dyfodol ynghylch y gwobrau, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan. Yn y cyfamser, dyma restr o holl enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2024:

 

Gwobr Arloesedd Cymunedol

Enillydd: Dyfodol Ni

Ar y rhestr fer: Yr Academi Iechyd Gwledig a Gofal Cymdeithasol (Coleg Ceredigion)

Ar y rhestr fer: Catalyddion Gofal Ceredigion

 

Gwobr Arloesedd mewn Busnes

Enillydd: Chuckling Goat

Ar y rhestr fer: Delineate

Ar y rhestr fer: Needle Rock | Remarkable Upholstery

 

Gwobr Prentis y Flwyddyn

Enillydd: Jason Vale (Needle Rock | Remarkable Upholstery)

Ar y rhestr fer: Asha Vernon (Area 43)

Ar y rhestr fer: Iestyn Rees-Greaves (Cyngor Sir Ceredigion)

 

Gwobr ARFOR

Enillydd: ArloesiAber

Ar y rhestr fer: Madarch Tŷ Cynan

Ar y rhestr fer: Theatr Felinfach

 

Gwobr Bwyd-Amaeth

Enillydd: Watson & Pratt’s

Ar y rhestr fer: Llaeth Teulu Jenkins

Ar y rhestr fer: Welshhomestead Smokery

 

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Enillydd: HAHAV Ceredigion

Ar y rhestr fer: Cerflun Cymunedol Cranogwen

Ar y rhestr fer: Gill Evans

 

Gwobr Busnes Cymunedol y Flwyddyn

Enillydd: Area 43

Ar y rhestr fer: Hwb Cymunedol Borth

Ar y rhestr fer: Yma

 

Gwobr Entrepreneur Ifanc

Enillydd: Siôn Jones, Cigydd Siôn Jones

Ar y rhestr fer: Bryn McGilligan Oliver (BMO Coaching)

Ar y rhestr fer: Sara Griffith (Sara Lleucu)

 

Gwobr Darganfod Ceredigion

Enillydd: SeaMôr Dolphin Watching

Ar y rhestr fer: Fferm Bargoed

Ar y rhestr fer: West Wales Holiday Cottages

 

Gwobr Digwyddiad Llai/Cymunedol y Flwyddyn

Enillydd: Gŵyl Grefft Cymru

Ar y rhestr fer: Gŵyl Gomedi Aberystwyth

Ar y rhestr fer: Lleisiau Eraill Aberteifi

 

Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn

Enillydd: JDS Machinery Rali Ceredigion

Ar y rhestr fer: Gŵyl Fwyd Llanbed

Ar y rhestr fer: Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024

 

Gwobr Ceredigion a’r Byd

Enillydd: Aber Instruments

Ar y rhestr fer: Delineate

Ar y rhestr fer: Gwasg Gomer

 

Gwobr Caru Ceredigion 2024

Enillydd: Siôn Jones, Cigydd Siôn Jones

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This