Un o ganlyniadau’r cyfyngiadau symud a chyfyngiadau iechyd y cyhoedd oedd ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref, lle bo modd. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi llunio adroddiad ar Weithio o Bell i drafod ei effaith bosibl ar economi Cymru.
Mae data’r DU yn awgrymu, er mai dim ond 5 y cant o weithwyr oedd yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, bod hyn wedi cynyddu i tua 43 y cant ar ddechrau’r cyfyngiadau symud (Felstead and Reuschke, 2020).
Mae’n rhesymol disgwyl y bydd mwy o bobl yn gweithio o bell am fwy o amser nag oedd yn gwneud hynny cyn mis Mawrth 2020. Gall hyn fod o gartref, neu o weithfan ddynodedig mewn cymuned, a gall fod yn llawn amser neu’n gyfuniad o weithio o bell ac mewn swyddfeydd. Fodd bynnag, ar draws economi Cymru gyfan, gall y cyfleoedd i weithio o bell fod yn gyfyngedig. Mae cyfran uwch o weithwyr ar gyflogau isel a phobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref yng Nghymru na sydd mewn rhannau eraill o’r DU (Rodrigues ac Ifan, 2020; Resolution Foundation, 2020). Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘uchelgais hirdymor i weld tua 30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu’n agos i’w cartrefi, gan gynnwys ar ôl i fygythiad Covid-19 leihau’ (Llywodraeth Cymru, 2020).
Mae gan y bwriadau hyn oblygiadau eang i Gymru wledig, drwy roi mwy o gyfleoedd i bobl fyw gartref bydd yn effeithio ar ddewisiadau pobl o ran ble maent am fyw a dylanwadu o bosibl ar batrymau ymfudo mewnol blaenorol.
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru syntheseiddio’r dystiolaeth ar oblygiadau tebygol gweithio o bell i economi Cymru. Mae’r materion allweddol yn cynnwys y goblygiadau o ran:
- Cynhyrchiant
- Trefi a chanolfannau trefol
- Cyflogaeth
- Cymorth busnes
- Cludiant
Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd y dystiolaeth sydd ar gael hyd yma o Gymru, gweddill y DU ac yn rhyngwladol – gan ganolbwyntio’n benodol ar wledydd bach a chenhedloedd tebyg – i ddeall sut y gallai gweithio o bell effeithio ar wahanol agweddau ar weithgarwch economaidd yn y dyfodol.