Mae LPIP Cymru Wledig, mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid yn lansio gweithdai ar-lein newydd i unrhyw un mewn cymuned neu sy’n gweithio gyda chymunedau ac sydd am ddefnyddio ymchwil fel offeryn ar gyfer gweithredu.
Mae’r sesiynau ar-lein, sydd wedi’u hariannu’n llawn, yn defnyddio ymchwil newydd i gefnogi gweithredu cymunedol go iawn.
Canfyddiadau o Dwf a manteision Partneriaethau Trefol: Astudiaethau Achos o bob cwr o’r DU fydd thema’r sesiwn gyntaf, gynhelir ar 9 Medi rhwng 12:30 a 14:00.
Yn y sesiwn bydd Dr Sophie Bennett-Gillison (Prifysgol Aberystwyth), Dr Eifiona Thomas Lane (Prifysgol Bangor) a Julie Gibbon (Cadeirydd, Partneriaeth Haltwhistle https://haltwhistle.org/) yn rhannu gwybodaeth newydd am ystyr ‘twf’ economaidd yn dilyn eu gwaith ymchwil ddiweddar yng Nghymru a Northumberland, a sut allwn ei feithrin drwy bartneriaethau cymunedol/trefol.
Bydd Julie yn egluro sut mae Partneriaeth Haltwhistle, sy’n anelu at gefnogi a buddsoddi mewn mentrau a gweithgareddau cymunedol yn Haltwhistle, Northumberland, wedi bod o fudd i’r dref.
Bydd Sophie ac Eifiona yn trin a thrafod y syniad na ddylai twf, os am feithrin mentrau yng nghefn gwlad y DU, ganolbwyntio’n ormodol ar swyddi, trosiant neu gynhyrchiant. Dylent, yn hytrach, ganolbwyntio hefyd ar gapasiti lleol ar gyfer busnesau newydd, ar y ddarpariaeth o wasanaethau lleol, ac ar wella ansawdd a goroesiad ymhlith busnesau lleol. Gall twf fod olygu gwelliannau cyson rhag symud ‘am yn ôl’ yn ogystal â golygu ‘gwneud yn well’ yn hytrach na ‘gwneud mwy’.
I goftrestru dliciwch YMA
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer thema a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer sesiwn, anfonwch e-bost at post@tfc.cymru

