Mae mynediad at wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus a chymorth lles, yn ffactor arwyddocaol sy’n cyfrannu at dlodi gwledig. Mewn ardaloedd gwledig, mae mynediad at wasanaethau iechyd a lles, a gofal plant fforddiadwy yn aml yn gyfyngedig, sy’n arwain at bwysau ariannol a phroblemau argaeledd. Er enghraifft, os na all rhieni gael mynediad at ofal plant fforddiadwy yn lleol, efallai na fyddant yn gallu gweithio neu’n gorfod gweithio llai o oriau i ymdopi â chyfrifoldebau gofal plant.
Mae cau llawer o fanciau gwledig hefyd wedi gwneud mynediad at wasanaethau ariannol a chyngor yn her i drigolion cefn gwlad. Er bod datblygiad bancio rhyngrwyd wedi lleihau effaith y broblem hon i ryw raddau, mae’r her bellach wedi symud i gefnogi’r rhai nad ydynt wedi’u cysylltu ar-lein ac yr ystyrir eu bod mewn tlodi digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae darparu gwasanaethau iechyd a lles mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn dibynnu ar fformat cyflawni cenedlaethol yn hytrach na’i deilwra’n benodol i gwrdd ag anghenion yr ardal, gan arwain at anhyblygrwydd a methiant i fodloni anghenion y rhai sydd angen mynediad ato. Yn ôl adroddiad Conffederasiwn y GIG ar iechyd a gofal gwledig yng Nghymru, mae gwasanaethau acíwt yn dod yn fwyfwy arbenigol, gan arwain at amseroedd teithio hirach i gleifion sydd angen gofal arbenigol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Gall niferoedd llai o gleifion mewn ardaloedd gwledig wneud rhai gwasanaethau arbenigol yn anymarferol oherwydd costau a diffyg argaeledd meddygon.