Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi nodyn atgoffa i ffermwyr i ddiogelu eu hadeiladau rhag tân yn dilyn y tywydd sych diweddar.
Mae’r gwasanaeth yn dweud fod yna nifer cynyddol o danau ysgubor yn y misoedd diwethaf wedi i’r tywydd sych arwain i ffermwyr gynhaeafu a storio gwair yn gynt na’r arfer.
Mae’r nodyn yn amlinellu’r lefelau lleithder priodol ar gyfer storio bêls gwair ynghyd a bêls cymysg o wair, gwellt a rhedyn. Mae cadw bêls sydd â lefelau lleithder uwch yn peri risg o gynyddu mewn gwres ar ôl cael eu pentyrru, gan gynyddu’r risg posib o dân yn dechrau yn ddiarwybod.
Mae modd canfod gwybodaeth bellach ynghylch y lefelau priodol o leithder y dylid canfod mewn bêls ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.