Mae galwad cenedlaethol wedi ei wneud i gymunedau ar draws y DU i gyflwyno’r traddodiadau, crefftau ac arferion diwylliannol a drysorir ganddynt er mwyn llunio ‘stocrestr’ o etifeddiaeth byw. Nod y prosiect yw dathlu a gwarchod arferion gan gynnwys Eisteddfodau a llwyau caru, ynghyd ac adeiladu waliau cerrig a drymio dur.
Mae ymchwil diweddar yn dangos fod etifeddiaeth yn chwarae rôl arwyddocaol yn economïau lleol a chenedlaethol, gan gyfrannu biliynau yn flynyddol drwy dwristiaeth, gweithgarwch diwylliannol, sgiliau a hunaniaeth yn seiliedig ar le.
Beth sy’n digwydd?
- Gall cymunedau nawr gyflwyno traddodiadau y maent yn eu trysori yn dilyn saith thema, gan gynnwys y celfyddydau perfformio, crefftau, natur, arferion coginio ac arferion cymdeithasol.
- Mae modd gwneud cyflwyniadau am bedwar mis, gyda’r disgwyl i fersiwn cyntaf y stocrestr fod yn barod haf nesaf.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.

