Mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar drapiau glud a maglau at ddibenion hela anifeiliaid a rheoli plâu wedi dod i rym heddiw 17 Hydref 2023. Dyma’r gwaharddiad cyntaf o’i fath yn y DU, ac yn bolisi a dderbyniodd gefnogaeth gan y mwyafrif o’r rheini a gymerodd ran mewn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Mae’r gwaharddiad yn dilyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) a ddaeth yn gyfraith yn gynt yn y flwyddyn.
Mae’r Llywodraeth yn dadlau fod maglau a thrapiau glud yn achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid, ac nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng y mathau o anifeiliaid y maent yn eu dal a’u lladd. Cyfeiria’r Llywodraeth at y posibilrwydd o anifeiliaid anwes yn cael eu dal mewn trapiau glud a gorfod cael eu difa o’r herwydd, a’r boen y mae maglau yn gallu achosi i’r anifeiliaid sy’n cael eu dal ynddynt.
Dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths wythnos diwethaf:
‘Nod y gwaharddiad yw atal dull creulon o reoli anifeiliaid ysgflyfaethus a llygod mawr ac ati. Mae dulliau llai creulon yn bodoli ac yn cael eu defnyddio’n helaeth.
Dyw defnyddio maglau a thrapiau glud ddim yn gydnaws â’r safonau uchel rydyn ni’n ymdrechu i’w cyrraedd o ran lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Rwy’n falch ein bod yn arwain y ffordd ar y mater hwn.’
Gall unrhyw un sy’n cael eu dal a’u canfod yn euog yn defnyddio magl wynebu carchar neu ddirwy diderfyn neu’r ddau.