Mae’r Rhwydwaith Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig (ENRD) wedi cynhyrchu Fframwaith o Gamau Gweithredu Prawfesur Gwledig gyda’r nod o gefnogi llunwyr polisi a’r holl randdeiliaid sy’n ymwneud â dylunio neu weithredu mecanweithiau prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad.
Mae’r fframwaith yn adeiladu ar waith Grŵp Thematig a redodd rhwng mis Hydref 2021 a mis Mehefin 2022. Mae’n cynnwys pum cam gweithredu sy’n ymwneud ag eglurder pwrpas a gweithrediad.
Wrth wraidd y weledigaeth mae eglurder gweledigaeth ar gyfer ardaloedd gwledig ynghyd â thempledi cadarn i roi prawfesur gwledig a rolau a chyfrifoldebau clir ar waith. Mae’r Grŵp Thematig yn canfod bod yn rhaid cael datganiad clir o ewyllys gwleidyddol cryf a real ac ymrwymiad i brawfesur gwledig fod yn effeithiol ynghyd â mecanweithiau monitro a gwerthuso cadarn.
Mae’r adroddiad terfynol yn pwysleisio bod ymgysylltu â grwpiau gwledig, rhwydweithiau, cymunedau a dinasyddion lleol yn hanfodol ar gyfer prawfesur gwledig effeithiol a lle nad oes Seneddau Gwledig, Mudiadau Pentref neu strwythurau tebyg yn eu lle, dylid dod o hyd i fecanweithiau newydd ar gyfer casglu barn ar lawr gwlad drwy ymgynghori neu ffurfiau dyfnach o ymgysylltu.
Mae’r Fframwaith o Gamau Prawfesur Gwledig i’w weld yma.