Grŵp Herio Cymru Sero Net yn galw am weithredu brys ar newid hinsawdd

Medi 2024 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Grŵp Herio Cymru Sero Net wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Sefydlwyd y grŵp ym mis Ionawr 2023 fel rhan o Gytundeb Cydweithredu 2021 rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur gyda’r nod o ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i Lywodraeth Cymru er mwyn prysuro a chynorthwyo symud tuag at sero net. Heddiw, mae’r grŵp wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau sy’n gosod cynigion ac yn amlinellu argymhellion ar gyfer sicrhau trawsnewidiad bydd yn lleihau allyriadau carbon yng Nghymru mewn modd cyfiawn sydd yn sicrhau buddion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae saith adroddiad wedi eu cyhoeddi, un adroddiad cwmpasog sy’n gosod trosolwg o’u canfyddiadau a nifer o adroddiadau unigol sy’n darparu cynigion ar sectorau allweddol megis addysg, bwyd, ynni ac adeiladu a thrafnidiaeth. Yn ôl yr awduron mae’r adroddiadau’n archwilio strategaethau beiddgar er mwyn sicrhau dyfodol ffyniannus a gwydn i Gymru yn wyneb yr heriau y mae newid hinsawdd yn ei gyflwyno.

Ymysg canfyddiadau’r grŵp, sydd yn cynnwys arbenigwyr o’r byd academaidd, sefydliadau cyhoeddus a’r sector breifat, mae’r pwyntiau canlynol:

  • Maent yn dadlau bydd sicrhau sero net erbyn 2035 yn gofyn newid hanfodol yn uchelgais Llywodraeth Cymru, mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU a mandad cymdeithasol mwy i sicrhau newid.
  • Maent yn nodi ei bod hi’n bosib sicrhau budd mawr i’r cyhoedd yng Nghymru o’r trawsnewidiad sero net, gan gynnwys gwelliant yn iechyd pobl a llai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, mwy o ddiogelwch ynni, sicrhau system cynhyrchu bwyd sy’n fwy gwydn a diogel ynghyd a swyddi newydd carbon isel.
  • Maent hefyd yn dadlau fod angen gweithredu ar frys er mwyn gwneud yn siŵr fod Cymru’n gwneud y mwyaf o fudd trosglwyddo i system sero net a lleihau’r risgiau amgylcheddol ac economaidd sy’n gysylltiedig â pheidio gweithredu.

Mewn datganiad dywedodd Jane Davidson, Cadeirydd y Grŵp Her Sero Net:

‘Y Senedd oedd y senedd genedlaethol gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gan addo gweithredu i leihau effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd ar boblogaeth Cymru.

Drwy gynnig llwybrau 10 mlynedd i gyflawni canlyniadau i gadw poblogaeth Cymru yn fwy diogel, mae ein gwaith wedi canolbwyntio’n benodol ar gyflawni trawsnewidiad sy’n bositif o ran natur a chyfiawn yn unol â gofynion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ein huchelgais fu disgrifio llwybrau a fydd yn sicrhau manteision i bobl Cymru yn ogystal â gostyngiadau allyriadau mesuradwy. Er bod y gwaith hwn yn benodol i Gymru, mae gostyngiadau allyriadau mesuradwy yn hanfodol i ni i gyd os ydym am leihau niwed i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Gobeithiwn y bydd ein gwaith, a gyhoeddwyd cyn Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd a COP29 eleni yn Azerbaijan, yn helpu Cymru a gwledydd eraill o bob maint i ystyried canolbwyntio ar gamau gweithredu go iawn fel rhan o lwybrau go iawn i gyflawni.’

Ymysg yr aelodau o’r grŵp cynghori mae Sarah Dickins, cyn newyddiadurwr y BBC a gafodd ei phenodi yn Brif Gynghorydd Cyfathrebu gan Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan ar ddechrau mis Medi 2024.

Mae modd darllen yr adroddiadau yn eu cyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This