Grŵp cymunedol Trefdraeth yn llwyddo i brynu capel

Medi 2024 | Polisi gwledig, Sylw

Mae grŵp cymunedol o Drefdraeth yn Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus yn eu hymgais i brynu Capel Bedyddwyr Bethlehem gyda’r nod o’i droi’n ganolfan i’r gymuned. Drwy weithio ar y cyd gyda Planed Cymru, elusen sydd yn helpu cymunedau yng Ngorllewin Cymru i ddatblygu ac arloesi, ynghyd a benthycwyr preifat, llwyddodd Grŵp Canolfan Bethlehem brynu’r capel drwy arwerthiant ar 30 Awst.

Mae’r grŵp yn awyddus i droi’r Adeilad Rhestredig Gradd II yn ganolfan treftadaeth gynhwysol, yn enw cofnodi a dathlu hanes a diwylliant Trefdraeth am flynyddoedd i ddod. Maent yn credu’n gryf ar gyfer yr angen i’r Gymraeg fod wrth galon y prosiect ac yn eiddgar i’r ganolfan yn un sy’n arloesi, hybu a chefnogi’r gymuned leol.

Gallwch ddysgu mwy am Grŵp Canolfan Bethlehem a’u gweledigaeth ar gyfer y ganolfan treftadaeth drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This