GlobalWelsh yn comisiynu ymchwil newydd i ymchwilio’r ‘draen dawn’

Gorffennaf 2024 | Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

aerial photography of red tower surrounded by buildings during daytime

Mae GlobalWelsh, rhwydwaith sy’n cysylltu Cymru oddi cartref ar draws y byd, wedi lansio prosiect ymchwil mwn cydweithrediad a Dŵr Cymru sy’n edrych rhesymau pam y mae unigolion yn gadael Cymru a pa ffactorau gellid eu denu yn ôl. Mae’r gwaith ymchwil yn cael ei gynnal gan Dr Sarah Lousia Birchley o Brifysgol Gakuen yn Tokyo. Mae Dr Birchley yn aelod o fwrdd GlobalWelsh ac yn arbenigo mewn entrepreneuriaeth grwpiau ar wasgar ar draws y byd.

Mewn datganiad dywedodd Dr Birchley:

‘Fel un o’r Cymry ar wasgar, wedi fy ngeni a’m magu yng Nghwmbrân ond yn byw yn Japan ers 2001, rwyf wedi bod â diddordeb dwfn yn y berthynas rhwng ‘pobl’ a ‘lle’. Dros y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn astudio entrepreneuriaeth unigolion o Japan sydd yn byw dramor yn Ne Ddwyrain Asia a De America ac felly wrth fy modd ac wedi fy nghyffroi i allu dychwelyd i fy ngwreiddiau a chwblhau’r astudiaeth hon ar y Cymry ar wasgar.

Rydym wedi dewis dull systematig ac ystwyth i fapio’r Cymry ar wasgar. Mae ein cwestiynau nid yn unig yn ein helpu i ddeall pwy yw’r Cymry ar wasgar ond hefyd eu sgiliau a’u nodweddion, eu syniadau ynghylch hunaniaeth a pherthyn, a sut y maent yn rhyngweithio a’u cymunedau a’u rhwydweithiau. Mae hefyd gennym adran i entrepreneuriaid ac yn gobeithio i ddatgelu cyfleoedd masnachol a diwydiannol newydd rhwng Cymru a gweddill y byd. Nod yr ymchwil yw arfogi’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau a mewnwelediadau empeiraidd gall lywio ffurfiant polisïau strategol, gan rymuso’r Cymry ar wasgar i gyfrannu ac ymgysylltu mewn ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o’u traweffaith datblygiadol.’

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei nabod yn byw dramor ac eisiau cymryd rhan, mae modd cwblhau’r arolwg drwy ddilyn y ddolen hon:

https://www.surveymonkey.com/r/welshbraindrain

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This