Gall uchelgais gyffredin greu cyfleoedd newydd i Gymru wledig

July 2026 | Cymunedau a 'lle', Polisi gwledig, Sylw

Mae cynghorau Cymru wedi dweud bod cyfle amserol i adeiladu ar uchelgeisiau cyffredin ar gyfer Cymru wledig a gweithio gyda gweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar atebion ymarferol ac arloesol sy’n helpu cymunedau i ffynnu.

Dywedodd cynghorau fod ffocws Llywodraeth Cymru ar gymunedau gwledig, llywodraeth leol, tai a chynllunio, cysylltedd, adfywio, amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, gwydnwch hinsawdd a’r Gymraeg yn darparu tir cyffredin pwysig ar gyfer gweithredu. Pwysleisiwyd hefyd y dylai’r cyfrifoldeb dros Gymru wledig fod yn un sy’n cael ei rhannu ar draws lywodraeth, gyda phob maes portffolio â rhan yn nyfodol cymunedau gwledig.

Ailbwysleisiodd arweinwyr eu hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru o amgylch Maniffesto Gwledig CLlLC a’i brif ofynion ar gyfer cymunedau gwledig.

Mae’r Maniffesto yn nodi agenda gadarnhaol ar gyfer gweithredu, gan gynnwys Cynllun Datblygu Gwledig cynhwysfawr i Gymru, cyllid teg a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwledig, prawfesur gwledig cryfach ar bolisi cenedlaethol, a buddsoddiad mewn economïau lleol, trafnidiaeth, sgiliau, cysylltedd digidol, cymunedau Cymraeg a gwydnwch cymunedol.

Darllenwch Manifesto Gwledig CLILC 2025 YMA

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This