FSB Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar ddyfodol diwydiannau creadigol Cymru

Tachwedd 2024 | Sylw

closeup photo of black Sony video camera

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB Cymru) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n amlinellu eu hargymhellion ynghylch dyfodol busnesau bach sy’n weithredol ym maes y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Yn ôl FSB Cymru, mae’r diwydiannau creadigol ar dwf ac yn faes sydd â photensial i wneud cyfraniad mawr i economi Cymru. Yn 2022 cynhyrchodd y sector £3.8 biliwn o drosiant, gwerth oddeutu 5.3% o’r cynnyrch domestig gros (GDP) yma.

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Awdurdodau Lleol eu hystyried er mwyn hysgogi twf yn y diwydiant. Mae’r argymhellion hyn wedi eu rhannu i bum prif faes:

  • Parch cydradd: Mae’r adroddiad yn dadlau y dylai gwneuthurwyr polisi sicrhau fod ymyraethau polisi yn cydnabod y ffaith fod y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn sector dwf allweddol er mwyn sicrhau fod yna dwf mewn buddsoddiad ac er mwyn datblygu gweithlu sydd a’r sgiliau angenrheidiol.
  • Mynediad at gyllid: Nodir y dylid ceisio rhoi hwb i hyder buddsoddwyr drwy sicrhau cyllid a benthyciadau i bartneriaid yn y sector yn yr hir dymor.
  • Cysylltu busnesau: Mae’r adroddiad yn amlinellu’r angen i greu rhwydweithiau traws diwydiannol drwy gefnogaeth Cymru Greadigol a thrwy feithrin microglystyrau.
  • Fframweithiau cyffredin: Noda’r adroddiad y dylai cyfleoedd caffael, tendro a chontractio fod ar gael i fusnesau bach a chanolig, nid ond busnesau mwy.
  • Brand Cymru: dylid defnyddio busnesau bach a chanolig yn y diwydiannau creadigol i greu brand ‘Cymreig’ trawiadol a chryf.

I weld holl argymhellion FSB Cymru ac i ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This