Mae Fforwm Iaith Ynys Môn wedi cyhoeddi eu hymrwymiad i bobl ifanc ar yr ynys wrth iddynt ystyried dulliau o feithrin yr iaith Gymraeg yn lleol dros y blynyddoedd nesaf. Mewn cyfarfod diweddar yn Llangefni, cafwyd cyflwyniadau gan wasanaeth dysgu Cyngor Sir Ynys Môn ynghyd a Phrifysgol Bangor ynghylch y maes hanfodol hwn, gan edrych yn benodol ar feysydd addysg a gwasanaethau pobl ifanc.
Nodwyd sut y mae Ysgol David Hughes wedi derbyn achrediad Siarter Iaith Gwynedd a Môn ac fe adroddwyd y gwaith sy’n digwydd mewn canolfannau iaith, i sicrhau fod rheini nad ydynt eisoes yn medru’r Gymraeg neu wedi derbyn addysg Gymraeg yn derbyn cwrs trochi dros 12 wythnos.
Mewn datganiad dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Gary Pritchard:
“Mae sicrhau bod pob un o bobl ifanc Ynys Môn yn cael y cyfle i ddatblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus yn un o’n blaenoriaethau. Fel fforwm rydym yn awyddus i gyfleu i’n pobl ifanc pa mor werthfawr yw eu sgiliau Cymraeg, y drysau a’r cyfleoedd cyflogaeth lleol sy’n agored iddynt drwy’r iaith.”
Dywedodd Natalie Lloyd Jones, Swyddog Iaith Gymraeg Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Mae’n bwysig bod gan y gwasanaeth staff sy’n siarad Cymraeg er mwyn i ni gyflawni ein hymrwymiad at gynnig gwasanaeth brys dwyieithog. Ond, mae recriwtio gweithwyr sydd â’r sgiliau ‘da ni eu hangen yn gallu bod yn heriol. Mae’n dda gwybod bod ein hysgolion, colegau addysg bellach, a’r brifysgol yn gweithio’n strategol i ddatblygu gweithlu o siaradwyr Cymraeg hyderus ar gyfer y dyfodol.”
Bwriad y fforwm yw dod a chyrff addysg, diwylliant, gwasanaethau cyhoeddus, a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i rannu syniadau, cynllunio prosiectau, a chydweithio ar fentrau sy’n cryfhau defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Mae aelodau yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mudiad Meithrin, Yr Urdd, Heddlu Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a llawer mwy.
Mae modd cysylltu â’r fforwm drwy e-bostio Cymraeg@ynysmon.llyw.cymru, ymweld â’i dudalen Facebook neu’r dudalen we.

