Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi dadansoddiad o ffigurau Cyfrifiad 2021 sy’n dangos fod y niferoedd o gartrefi sy’n cael eu defnyddio fel tai haf wedi cynyddu yn sylweddol yn rhai ardaloedd o Gymru.
Ynys Môn oedd yr ardal a’r cynnydd mwyaf o dai haf yng Nghymru a Lloegr dros y ddegawd ddiwethaf. Wedi addasu’r data i ystyried maint y boblogaeth leol, Gwynedd ac Ynys Môn gwelwyd y cyfrannau uchaf o ddefnyddwyr cartrefi wyliau yn teithio yno, yn ôl yr adroddiad.
Cymru oedd yr ardal â’r gyfran uchaf o bobl yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau o gymharu â’r boblogaeth leol, gyda chyfanswm o 36,370 o gartrefi gwyliau.
Daw hyn wythnos wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio i barhau a chynllun i godi treth cyngor ar berchnogion tai o’r fath.
Mae modd darllen adroddiad llawn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yma.