Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod dros £158 miliwn wedi’i dalu i fusnesau fferm ar draws Cymru drwy flaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Basic Payment Scheme neu BPS) 2025. Yn ôl Llywodraeth Cymry bydd dros 15,500 o’r rheini sy’n hawlio yn derbyn y blaendal sydd werth oddeutu 70% o’r amcangyfrif o werth terfynol eu hawliadau unigol.
Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i wneud blaendaliadau, wrth i geisiadau unigol ar gyfer y Cynllun y Taliadau Sylfaenol gael eu dilysu. Bydd gweddill taliadau BPS 2025 yn cael eu gwneud yn llawn o 12 Rhagfyr ymlaen, yn amodol ar ddilysu’r hawliad BPS yn llawn.
Mae disgwyl bydd pob hawliad, heblaw am yr achosion mwyaf cymhleth, yn cael eu dilysu’n llawn a thaliadau’n cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2026.
Bydd y rhain ymysg y blaendaliadau olaf o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol sy’n dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (Sustainable Farming Scheme neu SFS) ym mis Ionawr 2026.
Mewn datganiad, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Rwy’n falch fod miloedd o ffermydd ledled Cymru bellach wedi cael blaendaliadau BPS ar gyfer 2025.
Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau a theuluoedd ffermio ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau fod y taliadau llawn sy’n weddill yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl unwaith y bydd y cyfnod talu llawn yn agor ym mis Rhagfyr.
Hon fydd y flwyddyn olaf cyn dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd ym mis Ionawr 2026. Bydd yr SFS yn adeiladu ar fecanweithiau a systemau cyflawni profedig Taliadau Gwledig Cymru.”
I ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru, neu i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael wrth baratoi ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

