Mae’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad wedi cyhoeddi adroddiad Ffermio i Sicrhau Newid: mapio llwybr hyd at 2030. Mae’r adroddiad yn cyflwyno ymchwil newydd sy’n dangos y gall amaethecoleg gynhyrchu digon o fwyd iach i boblogaeth y DU yn y dyfodol, ac mae’n archwilio sut mae’r dull modelu technegol newydd hwn yn herio ac yn datblygu ein syniadau am system fwyd a ffermio newydd.
Mae adroddiad y comisiwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn fwydo poblogaeth sy’n tyfu mewn modd cynaliadwy, a sut y gall amaethyddiaeth ymateb i newid yn yr hinsawdd a chreu system ffermio gadarn, ddiogel a theg.
Mae ymchwil o’r adroddiad yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn er mwyn tyfu digon o fwyd iach i boblogaeth y dyfodol gan greu dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy ar yr un pryd.