Mae erthygl newydd ar wefan Cyswllt Ffermio yn bwrw golwg ar sut y gellid defnyddio tail sych fel deunydd gorwedd ar gyfer gwartheg llaeth. Yn yr erthygl, mae Dr Natalie Meades o ganolfan IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn amlinellu rhai o fanteision defnyddio tail sych wedi ei ailgylchu (recycled manure solids neu RMS) fel deunydd i wartheg llaeth gael gorwedd arno. Yn ôl Dr Meades, gall fod yn ddeunydd da gan nad yw’n cynnwys gormodedd o lwch ac yn helpu i gysuro gwartheg, eto mae yna rai cyfyngiadau i’w ddefnydd megis heriau wrth sicrhau cyflenwad cyson o dail sych a’i effaith ar iechyd anifeiliaid.
Mae’r blog yn trafod sut y mae’r broses ailgylchu hyn yn gweithio, sut mae’r defnydd o dail sych wedi ei reoleiddio yn y DG a Chymru, a rhai o fanteision ac anfanteision y dull yma o ailgylchu tail. I ddarllen y blog yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyswllt Ffermio.