Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn wynebu costau dyddiol uwch na’r rhai mewn ardaloedd nad ydynt yn wledig. Dyma honiad erthygl ymchwil ar-lein ddiweddar gan y Senedd (Gorffennaf 2022). Mae’r erthygl yn amlinellu’r hyn sy’n cyfrannu at y costau ychwanegol hyn a sut mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.
Y ffactorau cyfrannol allweddol a amlinellir yn yr erthygl yw:
- Prisiau ynni cynyddol, a all effeithio’n anghymesur ar ardaloedd gwledig oherwydd stoc tai hŷn a mwy o eiddo oddi ar y grid. Mae’r erthygl yn cyfeirio at adroddiad diweddar gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd sy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn creu cynllun effeithlonrwydd ynni i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gwledig.
- Cost eitemau hanfodol. Mae’r erthygl yn dyfynnu tystiolaeth gan Sefydliad Bevan bod “y cartref gwledig cyffredin ym Mhrydain Fawr yn gwario £641.10 yr wythnos ar hanfodion o’i gymharu â £572.90 ar gyfer y cartref trefol cyffredin”.
- Costau cynyddol mewnbynnau amaethyddol, gan gynnwys tanwydd, gwrtaith, a bwyd anifeiliaid a’r bygythiad dilynol i hyfywedd busnesau fferm.
- Trafnidiaeth, gan gynnwys y ddibyniaeth drom ar gerbydau preifat oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ac felly effaith cynnydd mawr ym mhris tanwydd ar gyllidebau teuluoedd.
Mae’r erthygl yn amlinellu’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r materion hyn ac yn cyfeirio at adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Darllenwch Erthygl Ymchwil y Senedd yma.