Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau STEM Cymru sy’n rhoi sylw i’r unigolion a’r busnesau sy’n rhagori ac arloesi ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng Nghymru. Nod y gwobrau yw dathlu’r rheiny sy’n arweinwyr sector, gwneud cyfraniad economaidd o bwys, datrys y bwlch sgiliau STEM yma ynghyd a’r rheini sy’n mynd ati i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i weithio yn y maes.
I fod yn gymwys ar gyfer enwebiad, rhaid i fusnesau fod wedi eu lleoli yng Nghymru, wedi bod yn masnachu ar neu cyn 17 Hydref 2023. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5yh 12 Gorffennaf 2024. Am fwy o wybodaeth ac i ddysgu sut mae gwneud cais, dilynwch y ddolen hon.