Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

Gorffennaf 2024 | Sylw

metal bridge under cloudy sky

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024. Nod y gwobrau yw arddangos a dathlu’r mentrau a’r unigolion gorau oddi fewn i’r sector gymdeithasol yng Nghymru. Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn seremoni gwobrau Social Enterprise UK ym mis Rhagfyr.

Mae’r gwobrau wedi eu rhannu i mewn i’r categorïau canlynol:

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
Un i’w Wylio
Menter Gymdeithasol Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
Menter Gymdeithasol Technoleg y Flwyddyn
Menter Gymdeithasol yn y Gymuned
Arloesedd y Flwyddyn

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5yh ar 7 Gorffennaf 2024. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut mae llunio enwebiad a gwneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan Cwmpas, trefnwyr y digwyddiad.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This