Elusennau yn datgan angen ar gyfer buddsoddiad mewn ffermio sy’n gyfeillgar i natur

Awst 2024 | Polisi gwledig, Sylw

two brown sheep standing on grass field at daytime

Mae tri o elusennau natur bennaf Cymru wedi dod ynghyd i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud buddsoddiad blynyddol o £594 miliwn i sicrhau fod targedau adfywio natur yn cael eu cyrraedd. Mae RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn dweud fod dirfawr angen i gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ei newydd wedd, gynorthwyo ffermwyr i fynd i’r afael a’r argyfyngau natur a hinsawdd ac i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

Daw’r alwad ar ôl adroddiad economaidd annibynnol a gomisiynwyd gan yr elusennau sy’n dangos fod angen i Lywodraeth Cymru i gynyddu’r gyllideb amaethyddol yn sylweddol gan ddyblu’r hyn sy’n cael ei wario i gyrraedd y nod. Yn ôl yr adroddiad, mae’r gyllideb bresennol ond hanner yr hyn sydd angen er mwyn cyrraedd targedau natur a hinsawdd. Mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o anghenion gwahanol fathau o ffermydd, ynghyd a darparu golwg ar wahanol sectorau amaeth a sut y mae’r gofynion adfywio natur yn amrywio yn ddibynnol ar gyd-destun.

Dywedodd Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

‘Gyda bron i 90% o Gymru yn cael ei ffermio, mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth adfer natur. O ddarparu amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt, adfer mawndiroedd ac arbed rhywogaethau o dan fygythiad, fel y Gylfinir, ceir uchelgais eang yn y diwydiant i gynhyrchu bwyd a mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Mae’r adroddiad Maint yr Angen yn amlygu’n glir bod angen llawer mwy o gyllid ar Gymru na’r lefelau presennol i gyd-fynd â’r uchelgais hwn.’

Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

‘Mae’r adroddiad Maint yr Angen heddiw yn dangos yn glir faint o arian sydd ei angen ar ffermio yng Nghymru i fuddsoddi yn adferiad byd natur. Mae ffermwyr yn allweddol i adfer byd natur ac mae angen gwneud hyn ar raddfa fawr ac yn gyflym ledled Cymru. Mae hwn yn fuddsoddiad ac nid yn gost. Buddsoddiad i ddyfodol cynaliadwy lle bydd adfer byd natur gan ffermwyr yn helpu i liniaru llifogydd, storio carbon, lleihau llygredd afonydd a chynyddu gwytnwch yn erbyn digwyddiadau hinsawdd eithafol.’

Dywedodd Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

‘Fel y mae dadansoddiad newydd Maint yr Angen yn ei ddangos, rhaid i fuddsoddiad pellach ganolbwyntio ar gynlluniau cymhelliant sy’n darparu digon o gefnogaeth ar gyfer ffermwyr i ddod â byd natur yn ôl, mynd i’r afael â newid hinsawdd ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi’n iawn er mwyn pontio tuag at fusnesau ffermio mwy gwydn sy’n gyfeillgar i natur.’

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This