Yn gynharach eleni fe wnaeth Gyda’n Gilydd Dros Newid, drefnu cynhadledd o dan y teitl ‘Gwell Gyda’n Gilydd’ gyda’r bwriad o ddod a phobl ynghyd er mwyn creu rhwydweithiau a chynghreiriau newydd er mwyn grymuso gallu cymunedau Cymru i weithredu er lles y bobl sy’n byw ynddynt.
Mae Gyda’n Gilydd Dros Newid yn fenter gymdeithasol sy’n bodoli er mwyn cynorthwyo a threfnu gweithredu ar lawr gwlad, datblygu cymunedol ac ymgyrchu. Sefydlwyd y fenter yn wreiddiol yn Sir Benfro, ac wedi iddynt sicrhau cyllid yn 2022 mae’r fenter bellach wedi tyfu i fod yn un sydd yn gweithredu’n genedlaethol i sicrhau fod syniadau da yn cael eu clywed a’u rhannu a’u troi’n rhaglenni sy’n achosi newid gwirioneddol i fywydau pobl. Maent yn credu’n gryf bod dod â phobl ynghyd i rannu ymchwil a chynigion polisi, gan sicrhau fod llais cymunedau lleol yn amlwg yn y broses honno, yn hanfodol er mwyn sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol.
Bwriad cynhadledd ‘Gwell Gyda’n Gilydd’ oedd rhoi’r athroniaeth hwn ar waith. Trefnwyd i ddod a sefydliadau trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol ynghyd i geisio canfod ffyrdd newydd o gryfhau cydweithio ar draws cymunedau a sefydliadau yng Nghymru er mwyn sicrhau fod y gwaith llesiant sy’n barod ar waith yng Nghymru yn fwy effeithiol.
Yn ôl y trefnwyr, roedd cyfraniadau yn ystod y digwyddiad yn dangos yn glir yr heriau cynyddol mae sefydliadau cymunedol ac sy’n gweithio oddi fewn i’r gymuned yn wynebu wrth geisio gwneud eu gwaith. Nodwyd hefyd yr angen ar gyfer cryfhau cysylltiadau, gwell tystiolaeth o’r sefyllfaoedd sy’n wynebu cymunedau a gweithredu brys i fynd i’r afael a heriau dyrys.
Ymhlith y prif themâu a amlygwyd yn ystod y sesiwn oedd:
- Diffyg dilyniant polisi a gwerthuso fframweithiau polisi mewn adegau argyfwng.
- Traddodiad cryf Cymru o weithredu cymunedol fel sylfaen i gydweithio mwy radical.
- Cyfleoedd i ddyfnhau cysylltiadau rhwng Addysg Uwch a Phellach a chymunedau.
- Pwysigrwydd cefnogi rhwydweithiau a chyfnewid gwybodaeth trwy adnoddau fel Arsyllfa Cymru.
- Ynni ac optimistiaeth y cyfranogwyr i barhau i weithio gyda’i gilydd.
Yn dilyn y cyfarfod fe gyhoeddwyd papur yn amlinellu rhai o fanylion a themâu trafodaethau’r diwrnod, sy’n cynnwys cyfraniad gan yr Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth, Cyfarwyddwr yr LPIP Cymru Wledig. Mae modd darllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.
Fe wnaeth Gyda’n Gilydd Dros Newid hefyd gynhyrchu fideo sy’n dogfennu’r diwrnod y mae modd ei wylio isod.
Gwell Gyda’n Gilydd – Creu rhwydweithiau a chynghreiriau i gryfhau cymunedau Cymru
Mae Gyda’n Gilydd Dros Newid yn eiddgar i ennyn cyfraniadau o ystod eang o unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Os ydych am fod yn rhan o’r sgwrs ynghylch ei gwaith, ewch i’w gwefan i ddysgu mwy neu anfonwch e-bost at post@tfc.cymru.

