Mae Ystadegau ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cymru wedi darparu dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno 8 dangosydd gyda sylwadau a dadansoddiad sy’n cymharu Cymru a rhanbarthau a gwledydd eraill y DU.
Mae’r dangosyddion yn cynnwys:
- Incwm aelwydydd crynswth i’w wario (GDHI) y pen
- Prif incwm y pen
- Gwerth ychwanegol gros (GYG) y pen
- Gwerth ychwanegol gros (GYG) yr awr a weithiwyd
- Cyfradd cyflogaeth
- Enillion llawn amser wythnosol
- Cyfradd tlodi
- Cyfanswm cyfoeth cyfartalog aelwydydd
Darperir dolenni ar gyfer allbynnau ystadegol cysylltiedig, lle mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael am bobl, busnesau a sectorau yn economi Cymru.
Bydd y dangosfwrdd yn cael ei ddiweddaru pan fydd data newydd ar gael.

