Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn amlinellu gweledigaeth y sefydliad ar gyfer y dyfodol

Awst 2024 | Sylw

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (5 Awst 2024) bydd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn darparu trosolwg o weledigaeth Swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer y dyfodol. Ym mhabell y Cymdeithasau am 1yh bydd Osian Llywelyn yn trafod y dull o gyd-reoleiddio ynghyd a bwriad y Comisiynydd i gyflwyno deilliannau sy’n cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau cyhoeddus a defnyddwyr y Gymraeg.

Ochr yn ochr â’r digwyddiad bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bydd yn amlinellu sut y mae sefydliadau rheini sydd yn gorfod cydymffurfio a Safonau’r Gymraeg yn cydymffurfio â’u dyletswyddau.

Mewn datganiad dywedodd Osian Llywelyn:

‘Mae’n braf gallu adrodd bod lefelau cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg yn gwella. Mae nifer cynyddol yn darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd ar bob achlysur. Mae hefyd yn galonogol gweld fod y sector iechyd, ar ôl sawl blwyddyn o berfformio’n is na sectorau eraill, yn gwneud cynnydd da mewn nifer o wasanaethau allweddol.

Wedi dweud hynny, mae gwaith pellach i’w wneud os ydym am wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw yn Gymraeg. Mae angen i sefydliadau wella ymwybyddiaeth pobl o’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg gan eu hannog i fanteisio arnynt a’u defnyddio.

Drwy osod deilliannau penodol mae’n caniatáu i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn fydd yn cynnig y traweffaith mwyaf. Mae hefyd yn golygu y gallwn ystyried cydymffurfiaeth sefydliadau yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith.’

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Rhondda Cynon Taf, Grŵp Llandrillo Menai a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ynghyd â Chomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn ymuno gydag Osian i drafod sut y mae cyd-reoleiddio’n effeithiol. Bydd y cyflwynydd Betsan Powys yn cadeirio’r digwyddiad.

Dywedodd Ben Screen, Arweinydd Strategol y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth:

‘Rwy’n derbyn yn llwyr fod angen i’r sefydliadau sydd yn dod dan y safonau eu gweithredu yn llawn. Mae hefyd angen arweiniad a chyngor gan y Comisiynydd. Mae’r dull o gyd-reoleiddio sydd wedi ei roi ar waith yn awgrymu ffordd cynhwysol a chydweithredol o weithredu.

Mae’r deilliannau sydd bellach wedi eu cyflwyno yn cynnig arweiniad clir am yr hyn sydd yn ddisgwyliedig ac yn pwysleisio mai proses barhaus yw hon lle bydd angen gweld gwelliant a chynnydd cyson.’

Mae’r adroddiad yn dangos y ffigyrau canlynol ar gyfer sefydliadau sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg, ac yn datgan:

  • Bod 90% o dudalennau gwe y sefydliadau hyn bellach yn Gymraeg
  • Bod 89% o’u negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ar gael yn Gymraeg
  • Bod 78% o ymholiadau yn cael eu hateb yn Gymraeg
  • Bod 88% o’u gohebiaeth wedi eu hateb yn Gymraeg
  • Bod 84% o hysbysebion swyddi ar gael yn Gymraeg

Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch presenoldeb y Comisiynydd ar faes yr Eisteddfod a chopi o’r adroddiad drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This