Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi fod ‘Tai ar Daith’ sef cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer rhannu gwybodaeth a chyngor ynghylch materion yn ymwneud a thai a chartrefi yn dychwelyd yn yr wythnosau nesaf. Bydd y daith yn ymweld â Bethesda, Porthmadog, Tywyn a Nefyn eleni, gyda’r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Dyffryn Ogwen Bethesda ar 10 Ebrill 2025 rhwng 4:00yh nes 6:30yh.
Nod y daith yw rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau tai sydd ar gael i drigolion Gwynedd yn enw sicrhau fod ganddynt fynediad at gartrefi fforddiadwy a safonol yn eu cymunedau eu hunain. Bydd cynrychiolwyr o’r Cyngor a phartneriaid allweddol o gymdeithasau tai wrth law yn y digwyddiadau er mwyn darparu cyngor arbenigol i’r rheini sy’n mynychu gan gynnwys darparu gwybodaeth am y benthyciadau sydd ar gael i help drigolion brynu cartref.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Ngwynedd, ac mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yma’n gyfle i bobl ddysgu mwy am gynlluniau tai’r Cyngor a’i bartneriaid a thrafod eu hanghenion wyneb-yn-wyneb efo arbenigwyr yn y maes.
“Gall hyn gynnwys cefnogaeth gyda digartrefedd, tai cymdeithasol, benthyciadau i brynu cartref, dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, adeiladu cartrefi newydd, a llawer iawn mwy. Os oes gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn sy’n ymwneud â thai, mae’r digwyddiad yma i chi.
“Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a darparu cymorth i’n cymunedau. Tra bod ein drysau bob amser ar agor i’r rhai sydd angen cefnogaeth, mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yn cynnig ffordd uniongyrchol i ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu chi, gyda’r holl wasanaethau tai ar gael o dan yr un to.”
Mae’r digwyddiadau sydd wedi eu trefnu fel a ganlyn:
Bethesda
• Dyddiad: 10 Ebrill 2025
• Amser: 16:00 – 18.30
• Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3NN
Porthmadog
• Dyddiad: 7 Mai 2025
• Amser: 15:00 – 18.30
• Lleoliad: Y Ganolfan, Stryd Fawr, Porthmadog LL49 9LU
Tywyn
• Dyddiad: 15 Mai 2025
• Amser: 15:00 – 18:30
• Lleoliad: Neuadd Pendre, Tywyn, LL36 9DP
Nefyn
• Dyddiad: 3 Mehefin 2025
• Amser: 15:00 – 18:30
• Lleoliad: Y Ganolfan, Ffordd Dewi Sant, Nefyn, LL53 6EA
I ganfod mwy o wybodaeth am y daith, dilynwch y ddolen hon.

