Mae Bwrlwm ARFOR wedi cyhoeddi digwyddiad arbennig bydd yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial yng nghyd-destun yr economi a’r Gymraeg. Mae trefnwyr Bangor AI yn dweud bydd y digwyddiad yn galluogi’r rheiny sydd yn mynychu i wneud y mwyaf o ddeallusrwydd artiffisial er bydd y Gymraeg.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Gwener 14 Mawrth rhwng 9:30yb a 12:30yh, yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor. Bydd arweinwyr deallusrwydd artiffisial yng Nghymru yn rhannu eu harbenigedd ynghylch y maes a sut gallwch chi a’ch gweithle elwa o’i ddefnyddio.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu eich lle yn rhag ac am ddim, dilynwch y ddolen hon i’r dudalen Eventbrite. Bydd mwy o fanylion ynghylch y digwyddiad yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf ar Facebook ac Instagram Bwrlwm ARFOR. Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn cau ar 12 Mawrth.

