Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) wedi dod i rym wedi iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ddeddf yn gam allweddol i gefnogi ffermwyr a sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu yn gynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Bydd y ddeddf yn llunio’r sylfaen ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bydd yn darparu cymorth ariannol i ffermwyr cyhyd a’u bod yn cadw at amodau amgylcheddol penodol wrth amaethu. Mae’r ddeddf yn rhoi pwerau ychwanegol i Weinidogion Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i ffermwyr yn y dyfodol o dan unrhyw gyfundrefn taliadau newydd ac yn y cyfamser wrth i fanylion y gyfundrefn gael eu cwblhau.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
‘Mae hon yn ddeddf hanesyddol. Am y tro cyntaf erioed, bydd Cymru’n gallu llunio ei pholisi ei hun ar gyfer ffermio. Hynny ar adeg tyngedfennol i’r diwydiant, wrth i ni siapio’r cymorth a roddir yn y dyfodol a wynebu heriau costau uwch a’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sector amaethyddol Cymru. Rydyn ni’n gwybod mai’r bygythiad mwyaf i fwyd cynaliadwy yn y dyfodol yw’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y Ddeddf yn erfyn i’r diwydiant i’w helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy gan weithredu yr un pryd i ddelio â’r argyfwng hinsawdd.’