Dathlu’r iaith yn y byd gwaith

Awst 2024 | Arfor, Sylw

Ychydig wythnosau yn ôl ym mis Gorffennaf fe gynhaliwyd Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd yn enw’r dathlu’r iaith ym myd gwaith gogledd a gorllewin Cymru. Mae’r gwobrau yn rhan o weithgarwch ffrwd Bwrlwm ARFOR, elfen ar gynllun ARFOR sydd yn hyrwyddo a chreu cyhoeddusrwydd ynghylch gwaith y rhaglen. Gan fod y rhaglen ehangach yn un sydd yn edrych yn benodol ar gysylltiadau rhwng yr economi a’r iaith, cam amlwg oedd cynnal seremoni wobrwyo yn dathlu’r busnesau ac unigolion sy’n gweithio drwy’r Gymraeg. Cwmni cyhoeddusrwydd Lafan sy’n cyflenwi’r ffrwd gwaith hon ar gyfer rhaglen ARFOR, a hwythau sydd wedi bod wrthi’n ddyfal yn trefnu’r gwobrau.

Roedd cyfle i fusnesau, sefydliadau ac unigolion enwebu eu hunain neu eraill ar gyfer un o saith o wobrau sef, Brand Mwyaf Cymraeg, Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg, Staff Mwyaf Cymraeg, Gofod Mwyaf Cymraeg, Busnes Mwyaf Cymraeg, Unigolyn Mwyaf Cymraeg a’r Cynnyrch Mwyaf Cymraeg. Cyhoeddwyd yr enwebiadau, ac fe agorwyd pleidlais gyhoeddus er mwyn penderfynu’r enillwyr. Ar 17 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Aberystwyth er mwyn dathlu cyrhaeddant yr enillwyr

Dyma restr o’r rheini a ddaeth i’r brig:

  • Brand Mwyaf Cymraeg y Byd: Sglods Llanon
  • Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd: Parc Cŵn Pawen Lawen
  • Staff Mwyaf Cymraeg y Byd: Caffi Maes Caernarfon
  • Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd: Garth Newydd
  • Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd: Caffi Maes Caernarfon
  • Unigolyn Mwyaf Cymraeg y Byd: Geraint Edwards, Pedair Cainc
  • Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd: Blocs gan Ffion Wyn Evans o Enfys o Emosiynau

I nifer o’r enillwyr, roedd y gwobrau yn gyfle i daflu golau ar y gwaith caled a’r ymroddiad i’r Gymraeg y maent yn ei wneud gyda’u busnesau.

Mae busnes Garth Newydd yn Llanbedr Pont Steffan, enillwyr Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd yn westy sydd hefyd yn ysgol iaith sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddod ynghyd i ymarfer drwy gymdeithasu. Maent yn darparu gofod croesawgar a chefnogol i’r rheini sydd eisiau magu hyder yn yr iaith.

Dywedodd Nia Llywelyn, sydd wedi bod yn cynnal cyrsiau yno:

‘Mae pobl yn gallu aros gyda ni am noson neu am  wythnos ac mae’n gyfle i bobl ymgolli yn y Gymraeg.

Mae saith ystafell wely gyda lle i gyfanswm o 10 o bobl ac yn ystod eu harhosiad maen nhw’n paratoi bwyd ac yn bwyta gyda’i gilydd, yn mynd allan gyda’i gilydd ac yn ymweld â siopau gyda staff sy’n siarad Cymraeg.

Fe allen ni wario arian ar drefnu digwyddiadau ond yr hyn y mae’n well gan ein gwesteion ei wneud yw cael cyfle i gyfarfod, siarad a dod i adnabod siaradwyr Cymraeg brodorol.

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw helpu pobl ar y daith i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Y dyddiau yma mae yna lot o ddysgu yn digwydd o flaen sgrin ond mae’n llawer brafiach i bobl gymdeithasu gyda’i gilydd ac er mwyn eu hannog i siarad dw i’n gofyn iddyn nhw ddod ag eitemau gyda nhw.

Yr wythnos diwethaf cawsom menyw o Texas, pobl o Ganada ac Awstralia a’r mis diwethaf roedd rhywun o Sweden yn aros yma nad oedd erioed wedi siarad ag unrhyw un yn Gymraeg wyneb yn wyneb ac fe wnaeth hi ymdopi’n wych.

Ry’n ni’n cael pob math o bobl yma. Ry’n ni wedi cael dynes o Malta oedd yn siarad naw iaith ac eisiau dysgu Cymraeg.’

Am ragor o wybodaeth am waith Bwrlwm ARFOR ynghyd a’r enillwyr eraill, dilynwch @bwrlwmarfor ar Twitter/X ac Instagram.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This