Datblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru

July 2026 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn datblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru. Nod y strategaeth fydd creu dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â’r system fwyd gyfan, o gynhyrchu ac prosesu amaethyddol hyd at fanwerthu, caffael cyhoeddus, iechyd ac addysg.

Bydd y strategaeth – un o ymrwymiadau cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod o 100 diwrnod – yn ystyried sut y gall polisïau bwyd gefnogi cynhyrchwyr yn well, cryfhau economi fwyd Cymru, cadw mwy o werth yng Nghymru, a hyrwyddo bwyta’n iach a llythrennedd bwyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Simon Wright i gadeirio Grŵp Gweithio Arbenigol newydd, a disgwylir i’r strategaeth derfynol gael ei chyflwyno i Weinidogion yn 2027.

Mae Wright yn arbenigwr ym maes bwyd a systemau bwyd, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn sector lletygarwch Cymru. Ef yw perchennog Wright’s Food Emporium yn Llanarthne, a bydd yn arwain trafodaethau gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This