Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi bydd Canolfan Pentre Awel yn agor i’r cyhoedd am 4yh ar ddydd Mercher 15 Hydref 2025.
Mae Pentre Awel yn ddatblygiad newydd dan arweiniad y cyngor bydd yn darparu gofod ar gyfer ymchwil meddygol a gofal iechyd gyda’r gobaith o gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Mae’r Cyngor wedi honni bydd y prosiect yn creu 1,800 o swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, a bydd yn cynrychioli cyfraniad o £467 miliwn i economi’r ardal dros y 15 mlynedd nesaf.
Yn ôl y Cyngor, hwn yw’r datblygiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan gynrychioli partneriaeth rhwng y sector preifat a cyhoeddus ynghyd a’r trydydd sector o dan yr un to yn enw gwella iechyd trigolion lleol. Er bydd y ganolfan yn agor yng nghanol mis Hydref, bydd digwyddiad swyddogol i’w agor ar ddiwedd y flwyddyn yng nghwmni cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr o’r gymuned.
Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnig y cyfleusterau canlynol i ymwelwyr eu mwynhau:
- Pwll 25m ag 8 lôn, pwll bach a phwll hydrotherapi
- Campfa sydd â’r dechnoleg glyfar ddiweddaraf ac offer o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys golygfeydd ar draws Llynnoedd Delta a’r awyr agored.
- Stiwdio chwilbedlo bwrpasol gyda beiciau Keiser
- Gofod helaeth ar gyfer dawns a ffitrwydd grŵp
- Neuadd chwaraeon 8 cwrt (sy’n cyfateb i 2 gwrt pêl-rwyd maint llawn)
- Ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod modern
- Mannau cymunedol croesawgar, mannau gwyrdd hygyrch a llwybrau arfordirol godidog a llwybrau beicio.
- Caffi ar y safle sy’n cynnig prydau twym, byrbrydau, opsiynau ‘prynu a mynd’, ac amrywiaeth o ddiodydd twym ac oer
- Gwefru Cerbydau Trydan
Ynghyd a’r cyfleusterau hyn bydd ar gael i ymwelwyr o ganol y mis, bydd gwasanaethau gofal, mannau ymchwil, gofodau addysgu a hyfforddi a gofod i egin fusnesau ac ardaloedd cydweithio hefyd yn cael eu lansio yn y dyfodol. Mae hefyd cynlluniau i ddarparu cartref nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a gwesty.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Rydym yn falch iawn o weld Canolfan Pentre Awel yn cyrraedd y cam hwn. Mae’n brosiect a fu ar y gweill am flynyddoedd a bydd hon yn foment drawsnewidiol nid yn unig i Lanelli, ond i Sir Gaerfyrddin a’r rhanbarth ehangach. Dyma enghraifft wirioneddol o gydweithrediad y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn darparu buddion hirdymor i’n cymunedau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r prif gontractwr Bouygues UK, y gadwyn gyflenwi leol a chenedlaethol a phawb fu’n cymryd rhan am eu gwaith caled yn ystod adeiladu Canolfan Pentre Awel”.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn fenter fawr, a nawr mae gweledigaeth Canolfan Pentre Awel yn realiti a gall pobl leol ei mwynhau. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn ymwneud â chreu manteision go iawn, parhaol i bobl yn ein cymunedau, i fusnesau lleol, i bobl ifanc sy’n dechrau eu gyrfaoedd, ac i genedlaethau’r dyfodol. Mae Canolfan Pentre Awel yn neges atgoffa bwerus o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd y sector preifat a’r sector cyhoeddus yn cydweithio gyda’r un nod”
Dywedodd Peter Sharpe – Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK:
“Mae trosglwyddo Parth 1 Canolfan Pentre Awel yn garreg filltir bwysig i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect trawsnewidiol hwn. Rwy’n falch iawn o fy nhîm sydd wedi darparu cyfleuster a fydd yn cael effaith barhaol ar y gymuned leol, gan gefnogi iechyd, llesiant, dysgu a thwf economaidd yn Llanelli a thu hwnt.
Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin a’n holl bartneriaid i wireddu’r weledigaeth uchelgeisiol hon.”
I ddysgu mwy am Ganolfan Pentre Awel dilynwch y ddolen hon i’r wefan.

