Darogan Talent a Phrifysgol Aberystwyth i gynnal digwyddiad gyrfaoedd Ceredigion

Mehefin 2024 | Arfor, Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

person writing on brown wooden table near white ceramic mug

Mae’r cwmni recriwtio Darogan Talent a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad ar y cyd yr wythnos hon er mwyn arddangos y mathau o gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yng Ngheredigion i fyfyrwyr a graddedigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 26 Mehefin rhwng 12 a 4yh. Mae’r rhestr o’r cyflogwyr bydd yn rhan o’r digwyddiad yn un sylweddol ac yn cynnwys y cwmnïau a sefydliadau canlynol:

Llwyddo’n Lleol, Bute Energy, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Busnes Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Equal, Menter a Busnes, Pugh, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Morgan LaRoche, ABER Instruments, Heddlu Dyfed Powys, Antur Cymru, Llywodraeth Cymru, New Directions a Cadnant Planning.

Bydd hefyd cyfle i gael llun proffesiynol ohonoch wedi ei dynnu gan y ffotograffydd Dafydd Nant (ffotoNant), siaradwyr gwadd arbennig, bwyd a diod drwy gydol y dydd a sesiynau trafod i drafod gyrfaoedd a sectorau arbennig sydd o ddiddordeb i chi.

Mae’r diwrnod cyfan yn rhad ac am ddim, ac wedi ei ariannu gan Gronfa Her ARFOR. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dilynwch y ddolen hon i wefan Darogan neu cysylltwch â Owain.James@darogantalent.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This