Mae Cyswllt Ffermio wedi tynnu sylw at rhai o’r unigolion sydd wedi bod llwyddiannus yn ennill grant cyfalaf i brynu offer newydd drwy’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth. Nod y Cynllun Datblygu Garddwriaeth yw helpu’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant garddwriaeth allu buddsoddi a datblygu eu busnes.
Mewn datganiad fe wnaeth Cyswllt Ffermio adrodd stori Tom Rees ac Andy Matthews sydd ill dau yn rhedeg busnesau garddwriaethol masnachol yng Nghymru.
Mae’r grant wedi caniatáu i Tom Rees fuddsoddi mewn offer cynaeafu tatws er mwyn gwneud y broses o gynaeafu ei gnwd tatws eleni yn fwy effeithlon. Defnyddiodd Mr Rees y grant i helpu i brynu peiriant trin tir a pheiriant plannu. Mae’n ffermio ar Fferm Dudwell, ger Hwlffordd, ac mae’r offer newydd yn galluogi iddo drin y tir a’i gribo ar yr un pryd.
Dywedodd Mr Rees:
‘Ni fyddwn byth wedi gallu cael y ddau ddarn hyn o offer ar yr un pryd y llynedd heb y grant drwy’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth’
Mae Andy Matthews yn tyfu ffrwythau a llysiau yn Aberbran Fawr ger Aberhonddu, ac fe ddefnyddiodd yntau’r cyllid i fuddsoddi mewn offer i ddyfrhau a bwydo’r ffrwythau meddal y mae’n ei dyfu ar y fferm. Wedi iddo drio defnyddio offer ail law ar ôl symud i gynhyrchu ffrwythau ar ben bwrdd a photiau ar gyfer ei fusnes pigo eich hun, fe wynebodd sawl problem a cholli nifer o’i blanhigion. Galluogodd y grant iddo brynu system fwydo raddol newydd sydd llawer mwy dibynadwy.
Dywedodd Mr Matthews:
‘Byddai wedi bod yn anodd prynu’r offer hwn heb y cyllid o 40%, oherwydd, gydag ond dau hectar, rydym yn fenter eithaf bach, ond mae angen offer tebyg i fusnesau sy’n gwneud pethau ar raddfa llawer mwy. Roedd y grant o fudd mawr i ni, gan ei fod yn ein galluogi i wneud popeth ar yr un pryd.’
Cafodd y Cynllun Datblygu Garddwriaeth ei sefydlu yn rhan o adferiad gwyrdd Cymru yn sgil pandemig Covid-19. Pwrpas y Cynllun yw cefnogi cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol sefydledig i ddatblygu eu busnesau drwy roi nawdd iddynt fuddsoddi mewn offer a thechnoleg newydd. Mae hefyd yn agored i fusnesau garddwriaethol sydd am gynyddu cynhyrchiant mewn modd cynaliadwy, arallgyfeirio i allu tyfu cnydau newydd a gwahanol a gwella ansawdd ac effeithlonrwydd cynhyrchu. Amcanion eraill y cynllun yw gwella mynediad at farchnadoedd newydd, gwella cyfleoedd i gyflogi pobl leol a chefnogi sylfeini’r economi wledig.
Mae rownd ddiweddaraf y cynllun nawr ar agor ar gyfer ceisiadau hyd nes 12 Ionawr 2024, a chyllideb o £1 miliwn i’w ddosbarthu i fentrau garddwriaethol.
Am ragor o fanylion ynghylch y cynllun ac i weld sut y gallwch wneud cais, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.