Cyswllt Ffermio i gynnal sesiynau cynghori ar sut y mae newidiadau treth am effeithio ffermwyr Cymru

Ionawr 2025 | Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi eu bod am gynnal cyfres o ddigwyddiadau bydd yn rhoi cyngor i’r rheini sydd yn gweithio yn y diwydiant amaeth sydd yn gofidio am sut gallent gael eu heffeithio gan y newidiadau i gyfraddau treth etifeddiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’r rhyddhad treth ar gyfer rheini sy’n etifeddu ffermydd ond yn ymestyn at y £1 miliwn gyntaf.

Mae’r newyddion wedi achosi braw sylweddol o fewn y diwydiant ac fe sbardunodd brotestiadau sydd yn parhau.

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu 10 digwyddiad i’w cynnal ledled Cymru bydd yn gwahodd arbenigwyr sydd â phrofiad o weithio ym maes treth etifeddiant fferm a chynllunio olyniaeth i roi cyngor i ffermwyr ar gyfer sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i baratoi am y newidiadau.

Mewn datganiad pwysleisiodd Dr Nerys Llywelyn Jones o Agri Advisor, bydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau, bwysigrwydd cynllunio olyniaeth. Dywedodd:

“Gallai’r newidiadau arwain at fwy o drosglwyddo asedau rhwng cenedlaethau cyn marwolaeth, ond mae’r rheolau ynghylch rhoddion â budd amodol yn berthnasol ac felly mae’n rhaid ystyried hyn yn ofalus,”

“Os bydd y rheolau hyn yn cael eu torri, er enghraifft, os yw’r rhoddwr yn dal i elwa mewn rhyw ffordd o’r ystâd, er enghraifft os yw’n dal i fyw yn y ffermdy, gallai hyn gael ei gyfeirio ato fel “PET a fethwyd” a bydd yn dod yn destun treth.”

Cyn i’r newidiadau gael eu cyhoeddi roedd ffermwyr yn cael eu cynghori i barhau i ffarmio cyn hired â phosib gan eu bod yn gymwys am Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) oedd yn golygu nad oedd rhaid i’r rheini oedd yn etifeddu eu heiddo dalu treth etifeddiaeth. Mae Dr Jones yn rhagweld y bydd y trothwy o newydd o £1 miliwn di dreth yn golygu mwy o graffu ar brisiadau a ffermwyr yn sicrhau fod asedau yn cael eu prisio’n gywir. Dywedodd Dr Jones:

“Bydd hyn o bosibl yn berthnasol i asedau sy’n destun APR a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR), gan gynnwys yr asedau sydd o fewn y cap o £1miliwn.”

Mae hefyd yn cynghori ffermwyr i geisio cyngor proffesiynol pellach i roi cynllun ar waith:

“I rai, bydd newidiadau bach yn eu galluogi i wneud y mwyaf o’r drefn IHT newydd a’r rhyddhad sydd ar gael ond i eraill bydd angen iddynt ystyried a chynllunio’n fanwl a bydd rhaid iddynt wneud rhai penderfyniadau anodd.”

Bydd cyfreithwyr a chyfrifwyr ar gael wrth law yn y digwyddiadau i ateb cwestiynau a rhoi cyngor. Dyma restr o’r digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio:

20/01/25 –Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin, SA31 1LG

21/01/25 – Canolfan Da Byw Sir Fynwy, Raglan, NP15 2B

22/01/25 – Maes y Sioe, Llwynhelyg, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4BW

27/01/25 – The Barn, Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron, SA46 0HL

28/01/25 – Clwb Golff Maesteg, Maesteg, CF34 9PR

03/02/25 – Coleg Cambria – Llysfasi, Llysfasi, Rhuthun, LL15 2LB

03/02/25 – Gwesty’r Celtic Royal, Caernarfon, LL55 1AY

05/02/25 – Gwesty’r Elephant & Castle, Drenewydd, SY16 2BQ

10/02/25 – Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY

11/02/25 – Neuadd Rhyd-y-main, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2AS

Mae modd cael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau ac am ddigwyddiadau eraill sydd wedi’u trefnu gan Cyswllt Ffermio drwy ymweld a’u gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This