Mae Prifysgol Aberystwyth a Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydweithio ar gynllun adfer cefn gwlad i Gymru a fydd yn anelu at wireddu gweledigaeth newydd ar gyfer y Gymru wledig yn 2030. Mae’r gwaith yn rhan o’r prosiect ROBUST ar draws Ewrop, prosiect Ewropeaidd sy’n cynnwys 24 o bartneriaid o 11 o wledydd. Mae ROBUST yn cael arian o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Er mwyn clywed barn unigolion a sefydliadau gwledig am yr heriau a’r cyfleoedd i Gymru wledig yn y degawd nesaf, mae’r Brifysgol wedi dosbarthu arolwg ar-lein. Mae’r arolwg yn gyfle i rannu awgrymiadau am gynigion i’w cynnwys yn y cynllun adfer cefn gwlad, gydag amrywiaeth eang o bynciau yn cael eu crybwyll megis effaith Covid-19 a chyfle i weithio o bell, newidiadau i dariffau a systemau bwyd lleol, yn ogystal â dyfodol yr amgylchedd a’i effaith ar gymunedau gwledig.
Mae tîm Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer cynllun adfer cefn gwlad yn yr arolwg ac yn gofyn am farn rhanddeiliaid gwledig am y newidiadau posibl hyn. Felly, os hoffech chi gwblhau’r arolwg ar-lein, dilynwch y dolenni isod.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 31 Awst 2020: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/gweledigaeth-ar-gyfer-cymru-wledig