Mae cynllun 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru, sef cynllun y blaid ar gyfer eu blaenoriaethau cychwynnol os byddent yn fuddugol yn etholiad Senedd mis Mai, wedi ymrwymo i fesur effaith eu rhaglen llywodraethu ar gefn gwlad. Os yn fuddugol, bydd llywodraeth Plaid Cymru sefydlu dyletswydd statudol newydd bydd yn gorfodi ystyriaeth o anghenion cymunedau gwledig wrth lunio polisïau, rhaglenni a modelau cyllido Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Daw’r cyhoeddiad wrth i bolau piniwn ddangos fod Plaid Cymru a Reform UK ben ben a’i gilydd. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys eu blaenoriaethau ym meysydd iechyd, yr economi, addysg, materion gwledig, yr amgylchedd, tai a pherthynas Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mewn datganiad i’r wasg dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Ym mis Mai, mae Cymru’n wynebu’r etholiad mwyaf arwyddocaol yn ei hanes.
Mae bron i saith mlynedd ar hugain o reolaeth dan arweiniad Llafur wedi gadael ein cenedl ar ei cholled. Gwasanaeth iechyd wedi’i lethu, safonau addysgol ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, ac economi sy’n dal yn rhy gysylltiedig â San Steffan i gael unrhyw rym go iawn.
Efallai y bydd eraill yn addo newid ond fel mae’r cynllun hwn yn ei brofi, Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd â chynllun gweithredu manwl, sy’n cynrychioli’r arweinyddiaeth newydd y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Nid ydym yn cymryd dim yn ganiataol, ond mae’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau mor niferus o ran nifer a chymhleth o ran natur fel y byddai’n anghyfrifol peidio â nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn bwriadu dechrau mynd i’r afael â nhw.
Yn sail i’n rhaglen mae’r gred bod yn rhaid i’n llywodraeth fod yn llywodraeth well. Mae pobl yng Nghymru wedi colli ffydd mewn llywodraethau – fe’u gwelir fel rhai pell i ffwrdd, nad ydynt yn adlewyrchu eu blaenoriaethau, a ddim yn gwrando arnyn nhw. Byddwn hefyd yn dod â’n gwasanaethau cyhoeddus ynghyd fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru a sefydlu gwerthoedd craidd a fydd yn sbarduno ein holl waith.”
Ynghyd a’r ymrwymiad i ddyletswydd statudol i ystyried effaith polisïau ar gefn gwlad, mae’r ddogfen hefyd yn trafod blaenoriaethau eraill Plaid Cymru pan ddaw at fwyd, ffermio a chefn gwlad Cymru. Mae rhain yn cynnwys:
- Cadarnhau cylch cyllido aml-flwyddyn i gymryd lle y taliad blwyddyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) presennol
- Comisiynu adolygiad annibynnol o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru er mwyn lleihau dyblygu a gwaith papur diangen i ffermwyr
- Dechrau gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr fydd yn adeiladu sicrwydd a llythrennedd bwyd, yn cryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, ac yn defnyddio’r plât Cymreig cyhoeddus i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod
I ddarllen y cynllun yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan Plaid Cymru.

