Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2024 yn galw am gynigion sesiynau

Mehefin 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

ripe carrots inside white net sack

Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru wedi galw am gynigion ar gyfer sesiynau, gweithdai neu bynciau i’w trafod yn ystod eu cynhadledd 2024. Bydd eu chweched gynhadledd yn cael ei chynnal yn Llambed rhwng 20 a 22 Hydref 2024. Mae gan y rheini sydd eisiau cyflwyno cynigion ar gyfer sesiynau hyd nes 31 Gorffennaf i wneud cais. Mae’r trefnwyr yn eiddgar i gael cyfraniadau ar gyfer sesiynau bydd yn cael eu cynnal yn rhannol neu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Mwy o Fwyd – Mwy o Ffermwyr – Mwy o Natur – Mwy o Wytnwch’ ac mae gofyn i geisiadau geisio ymateb yn greadigol i hyn. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth, ynghyd a manylion ar sut i wneud cynnig a manylion ynghylch sut i archebu tocynnau drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This