23 – 25 Tachwedd 2022 campws Llanbedr Pont Steffan, PCYDDS, Ceredigion.
Ar ôl dwy flynedd ar-lein, mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn dychwelyd yn 2022 fel digwyddiad go iawn. Cynhaliwyd y Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru gyntaf yn Aberystwyth yn 2019, wedi’i hysbrydoli gan yr Oxford Real Farming Conference.
Bydd digwyddiad 2022 yn trafod sut y gellir gwireddu gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a chymdeithas yng Nghymru trwy weithredu lleol.
Dros y ddau ddiwrnod, bydd y Gynhadledd yn creu sgyrsiau rhwng ffermwyr a busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr a phobl sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol. Ei nod yw archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru a thrafod sut y gellir cymryd camau cadarnhaol tuag at adeiladu system fwyd gynaliadwy yng Nghymru ar gyfer yr 21ain ganrif.
Eleni mae’r trefnwyr yn falch o allu gweithio gyda phrosiect newydd Canolfan Tir Glas, menter arloesol sydd â’r nod o sefydlu perthynas newydd rhwng PCYDDS, y gymuned a’r sectorau bwyd a ffermio.
Cynhelir Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2022 ar 23-25 Tachwedd ar gampws Llambed, PCYDDS, Ceredigion. Mwy o fanylion yma.
Mae recordiadau o gynadleddau ar-lein 2020 a 2021 i’w gweld ar wefan Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.