Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi uchafbwyntiau eu cynhadledd ‘Yr Hawl i Dai Digonol: Beth Sy’n Bosibl’ ar eu gwefan. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 16 Tachwedd yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, yn enw ceisio sicrhau cyfiawnder yn y system dai yng Nghymru. Roedd golwg benodol ar wledydd eraill yn Ewrop, lle mewn rhai achosion mae polisïau, deddfau a rheolau newydd wedi gweld y farchnad dai yn cael ei ddiwygio a’i newid i sicrhau tegwch i bobl leol.
Roedd y gynhadledd yn dilyn taith o gwmpas y wlad gan aelodau’r mudiad, i ymweld â chymunedau ac i siarad â phobl ynghylch y sefyllfa dai yn eu hardaloedd hwythau. Agorwyd y gynhadledd gyda ffilm o’r daith hon, o dan y teitl ‘Taith Deddf Eiddo, Tachwedd 2023’, sydd yn llawn cyfraniadau gan bobl ar hyd a lled Cymru am yr angen ar gyfer ‘Deddf Eiddo’ i ddatrys y sefyllfa dai. Gallwch wylio’r fideo yn ei gyfanrwydd yma.
Roedd gweddill y diwrnod yn un cynhwysfawr gyda nifer o gyfranwyr yn cymryd rhan. I ddechrau cafwyd cyflwyniadau gan Joseff Gnabo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith a Mabon ap Gwynfor Aelod Senedd Dwyfor Meirionydd. Yn dilyn hyn cafwyd trafodaeth banel o dan gadeiryddiaeth Sioned Hughes rhwng Catrin O’ Neill, Linda Evans a Clarissa Corbisiero. Yna cafwyd tri siaradwr gwadd yn archwilio gwahanol elfennau o’r hyn sy’n bosib ei ddiwygio drwy edrych ar gyd-destun gwledydd eraill yn Ewrop. Siaradodd Dara Turnbull, Eduard Cabré Romans a Walis George ynghylch ymyraethau sydd ar waith yn Ewrop, y sefyllfa dai ym Marcelona, a chynigion Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith yn eu tro.
Yn dilyn hyn cafwyd cyfle i drafod y papur gwyn y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gyhoeddi ar dai digonol yn 2024 ar ffurf sgwrs banel gyda Dylan Iorwerth yn cadeirio a Mabon ap Gwynfor, John Griffiths, Alicja Zalesinska a Walis George i gyd yn cymryd rhan.
Mae modd gwylio’r holl sesiynau o’r diwrnod drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, neu drwy ymweld â’u sianel Youtube. Mae grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd yng Nghaernarfon ar 7 Rhagfyr 2023 i drafod eu cynlluniau ar gyfer yr ymgyrch. Mae modd cael mwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn drwy gysylltu â post@cymdeithas.cymru.