Cynhadledd arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod dulliau rheoli TB

Medi 2024 | Polisi gwledig, Sylw

aerial view of city near body of water during daytime

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cynhadledd arbennig yn edrych ar sut y gellid mynd i’r afael a’r broblem TB mewn gwartheg drwy ddefnyddio dulliau cydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Ar 18 Medi bydd arbenigwyr o’r byd milfeddygol, academaidd, amaethyddol yn ymgynnull ynghyd a gwneuthurwyr polisi ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB mewn gwartheg. Ymhlith y siaradwyr bydd Dr Damien Barrett o Adran Amaeth Llywodraeth Iwerddon, Dr Ruth Little o Adran yr Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yr Athro Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd a Dr Henry Grub o Goleg Imperial Llundain.

Bydd hefyd anerchiadau gan filfeddygon a ffermwyr sydd yn cymryd rhan weithgar mewn mentrau lleol i reoli TB ar lawr gwlad.

Dywedodd Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Glyn Hewinson:

‘Mae cydweithio, grymuso a meithrin cysylltiadau yn hanfodol ar gyfer y frwydr barhaus yn erbyn TB mewn gwartheg yma yng Nghymru. Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi cynnal cynadleddau sy’n canolbwyntio ar brofi TB, bioddiogelwch, a bywyd gwyllt. Mae thema eleni, sef ‘Dimensiynau Cymdeithasol Rheoli TB’, yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ar gyfer rheoli clefydau’n effeithiol a’u dileu.

Rydym ni’n bwriadu trin a thrafod dimensiynau cymdeithasol TB mewn gwartheg gan gynnwys gwyddoniaeth newid ymddygiad a phwysigrwydd cynnwys yr holl randdeiliaid wrth gyd-ddylunio polisïau ac ymyriadau rheoli clefydau. Bydd hyn yn cynnwys enghreifftiau o achosion llwyddiannus lle mae’r llywodraeth, y diwydiant a’r proffesiwn milfeddygol wedi cydweithio i ddileu TB.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl o wahanol gefndiroedd yn gallu ymuno â ni ar gyfer cynhadledd sy’n ysgogi’r meddwl a lle byddwn yn gofyn i’n hunain sut y gallwn sicrhau dull rhanbarthol llwyddiannus o ddileu TB yng Nghymru.’

Mae modd canfod rhagor o wybodaeth a rhaglen llawn ar gyfer y gynhadledd ynghyd ag archebu eich lle yno drwy ddilyn y ddolen hon.

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This