Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi fod dal cyfle i fusnesau yn yr ardal i wneud cais ar gyfer grantiau i’w helpu i gyflogi pobl ifanc fel rhan o raglen ARFOR. Gall fusnesau wneud cais am hyd at £6000 i gynnig lleoliadau gwaith neu gyflogaeth tymor byr i bobl ifanc drwy raglen Llwyddo’n Lleol, un o ffrydiau gwaith ARFOR.
Un sydd wedi elwa’n barod o’r cynllun yw Megan Plumb o Rydaman gaeth y cyfle i weithio gyda Menter Dinefwr. Mewn datganiad dywedodd Megan:
‘Mae’r gefnogaeth gan Llwyddo’n Lleol wedi fy ngalluogi i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ardal leol i lle ges i fy magu ac mae hynny wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau i i barhau yn y byd gwaith.
Mae’r elfen Mentro wedi fy ngalluogi i gynnig digwyddiad Dawns Fodern i blant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg.’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price:
‘Drwy ein partneriaeth gydag ARFOR, rwy’n falch iawn o allu cynnig y cymorth ariannol hwn i fusnesau yn Sir Gâr sydd nid yn unig yn rhan annaton o’n heconomi leol, ond sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu rhagolygon gyrfa i’n cenhedlaeth yn y dyfodol a chaniatáu i’n pobl ifanc ddatblygu eu dyfodol yma yn Sir Gâr.’
Mae’r cynnig yn un dros dro ac yn ddilys i gefnogi gyda chostau staff hyd nes diwedd mis Chwefror 2025. I ddysgu mwy ynghylch y cynllun, cysylltwch â Ceri Davies, Swyddog Llwyddo’n Lleol Sir Gar drwy e-bost: ceri.davies@mentera.cymru. Mae modd canfod canllawiau llawn y rhaglen a gwneud cais drwy ddilyn y ddolen hon. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 11 Hydref 2024.