Cyngor Sir Ceredigion yn lansio Gwobrau Caru Ceredigion

Hydref 2024 | Arfor, Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi galw am geisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2024, dathliad o fusnesau a chymunedau’r sir. Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal ar ddydd Iau 12 Rhagfyr ac fe fyddant yn dathlu’r cyfraniadau arbennig sy’n cael eu gwneud gan fusnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion yn yr ardal.

Mae 12 categori i gyd, ac maent yn cynnwys gwobrau ar gyfer datblygiadau arloesol yn y gymuned, gwobrau sy’n cydnabod entrepreneuriaid ifanc, gwobrau ar gyfer digwyddiadau llwyddiannus ac ar gyfer y diwydiant twristiaeth hefyd. Mae ceisiadau bellach ar agor ac mae’r Cyngor yn awyddus i weld ymgeiswyr o fusnesau bach a mawr, sefydliadau dielw, elusennau a grwpiau cymunedol.

Cynhelir y digwyddiad o dan faner Caru Ceredigion ac mae’r gwobrau yn cael eu trefnu gan Cynnal y Cardi. Nod Caru Ceredigion yw meithrin balchder am y sir ymysg ei phobl, gan eu hannog i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol a chryfhau’r gymuned.

Mae’r rhestr llawn o wobrau fel a ganlyn:

  • Gwobr Arloesedd Cymunedol – Gwobr ar gyfer cymunedau neu brosiectau sydd wedi cael effaith gadarnhaol trwy ddod o hyd i atebion arloesol i heriau.
  • Gwobr Arloesedd mewn Busnes – Gwobr ar gyfer busnesau creadigol sydd wedi meddwl y tu allan i’r bocs i gwrdd â heriau a dod o hyd i atebion.
  • Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion – Hanfod ysbryd cymunedol, nod y wobr hon yw cydnabod unigolion, grwpiau neu fentrau sy’n codi arian ar gyfer achosion da neu sy’n helpu’r gymuned ehangach trwy waith gwirfoddoli.
  • Gwobr Busness Cymunedol y Flwyddyn – Yn berthnasol i elusennau, sefydliadau di-elw, ymgyrchwyr a grwpiau gwirfoddol – mae hyn yn ddathliad o’u gwaith a’u cyflawniadau.
  • Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn – Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad ar raddfa fawr yng Ngheredigion yn 2023/2024 sydd wedi cael effaith ehangach ar y sir, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal (5,000  a mwy), cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.
  • Gwobr Digwyddiad Cymunedol y Flwyddyn – Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad ar raddfa leol/gymunedol yng Ngheredigion yn 2023/2024 sydd wedi cael effaith ehangach ar y gymuned, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal (llai na 5,000), effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.
  • Gwobr Entrepreneur Ifanc – Cydnabod entrepreneuriaid ifanc sydd wedi dangos yr awydd i lwyddo gyda’u syniadau eu hunain ac sydd â’r uchelgais i droi’r rheini yn fusnes llwyddiannus.
  • Gwobr ARFOR – Busnesau sy’n cefnogi’r Gymraeg.
  • Gwobr Darganfod Ceredigion – Busnesau sydd wedi llwyddo i ddenu ymwelwyr i Geredigion a rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth.
  • Gwobr Bwyd-amaeth – I’r rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant bwyd neu amaeth ac wedi cael llwyddiant drwy dwf, arloesedd neu gynnyrch newydd a gall ddangos sut mae’r busnes wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwyrdd, yr economi leol a/neu’r gymuned.
  • Gwobr Prentis y Flwyddyn – Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n ymgymryd â phrentisiaeth gyda busnes sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd o ei hyfforddiant.
  • Gwobr Ceredigion a’r Byd – Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau neu fentrau Ceredigion sydd wedi helpu i roi Ceredigion ar y map, ac wedi helpu i godi proffil y sir y tu allan i Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio:

‘Rydym yn falch iawn ac yn edrych mlaen i gynnal ein Gwobrau Caru Ceredigion cyntaf erioed i ddathlu llwyddiant a’r hyn busnesau, entrepreneuriaid a chymynedau ar draws y Sir. Mae’n gyfle i ni longyfarch a dathlu llwyddiant, talent, creadigrwydd ac arloesedd yng Ngheredigion. Rwy’n annog i bawb fanteisio ar y cyfle i enwebu’r rhai sydd wir yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau fel y gallwn cydnabod a rhoi clod am eu gwaith eithriadol o fewn y sir.’

Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghyd a’r meini prawf ar gyfer pob gwobr ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/gwobrau-caru-ceredigion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 13 Tachwedd 2024.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This