Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyd-weithio gyda chwmni band eang i wella darpariaeth yng nghefn gwlad

Rhagfyr 2024 | Awtomeiddio ac AI, Cymru Wledig LPIP Rural Wales, Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi eu bod wedi llofnodi cytundeb gyda Voneus, darparwr band eang gwledig, bydd yn caniatáu’r cwmni i ddefnyddio polion goleuadau stryd i osod offer diwifr gigadid er mwyn gwella’r ddarpariaeth rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd.

Gobaith y Cyngor yw bydd hyn yn golygu gwasanaeth band eang cyflymach a mwy dibynadwy i fwy o gartrefi a busnesau mewn ardaloedd gwledig. Mewn datganiad dywedodd y Cyngor fod y dull hwn o ddarparu band eang yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ac effeithlonrwydd mewn darpariaeth i’r ardaloedd hynny nad ydynt wedi eu gwasanaethu yn ddigonol yn barod.

Fel rhan o’r cynllun bydd Voneus yn gosod offer radio ar bolion goleuadau bydd yn ffurfio cadwyn di wifr byd yn anfon signal o golofn i golofn, mesur nad oes angen cloddio a gosod gwifrau band eang ar ei gyfer.

Mewn datganiad dywedodd Ilan Scorah, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio Voneus:

“Mae ein partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin yn garreg filltir arwyddocaol arall i Voneus sy’n helpu cysylltedd band eang yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, lle mae cysylltedd wedi bod yn her yn aml. Mae cryfhau ein partneriaethau ag awdurdodau lleol yn helpu i arwain y ffordd ar gyfer gwell mynediad digidol yr ydym yn gwybod y gall wneud gwahaniaeth sylweddol o ran meithrin twf economaidd, gwella cyfleoedd addysgol, a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin:

“Rwyf wrth fy modd o gael y cytundeb newydd hwn gyda Voneus.  Mae’n gam cadarnhaol tuag at bontio’r rhaniad digidol yn ardaloedd gwledig anoddaf eu cyrraedd yn y sir.  Mae meithrin perthnasoedd gwaith i wella gwasanaethau preswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn rhan annatod o’r rhanbarth ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i gydweithio â darparwyr i wella cysylltedd band eang yn ein cymunedau gwledig.”

Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Am ragor o wybodaeth am Voneus a’u cynlluniau yn Sir Gaerfyrddin, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This